1-2A gweddïodd Iona ar Iehofa ei Dduw o fol y pysgodyn, a dywedodd, —
Gelwais o’r cyfyngder a fu i mi
Ar Iehofa, a’m hateb a wnaeth;
O fol uffern y gwaeddais,
Gwrandawaist ar fy llef.
3Pan y teflaist fi i’r dyfnder,
I ganol y môr,
Yna’r llif a’m hamgylchodd,
Dy holl dònau a’th wanegau,
Trosof yr aethant.
4A myfi, dywedyd a wnaethum,
“Bwriwyf fi o ŵydd dy lygaid:”
Er hyny edrychaf eto
Tua’th deml sanctaidd.
5Cylchynodd fi ddyfroedd hyd yr enaid;
Y dyfnder, amgylcha fi;
Yr hesg, ymglymu y mae am fy mhen;
6At odre y mynyddoedd y disgynais;
Y ddaear! ei bolltiau arnaf yn wastad:
Eto dyrchefi o ddystryw fy enaid,
O Iehofa, fy Nuw.
7Pan lewygodd ynof fy enaid,
Iehofa a gofiais;
A daw atat fy ngweddi
I’th deml sanctaidd.
8Y rhai a olygant eilunod ofer,
A’u trugaredd yr ymadawant.
9Ond myfi, gyda llef moliant,
Yr aberthaf i ti;
Yr hyn a addunedais a dalaf:
Iachawdwriaeth! eiddo Iehofa ydyw.
10Yna llefarodd Iehofa wrth y pysgodyn; a bwriodd Iona i’r sychdir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.