1“Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd;
Canys efe a larpiodd, ac a’n iachâ ni;
Tarawodd, a rhwym ni i fyny.
2Bywha ni wedi deuddydd
Y trydydd dydd y cyfyd ni,
Fel y byddom byw ger ei fron:
3Yna yr adwaenwn, y dilynwn i adwaen, yr Arglwydd:
Fel y bore y sefydlwyd ei fynediad allan;
A daw fel y cynnar-wlaw arnom,
Fel y diweddar-wlaw a ddyfrha’r ddaear.”
4Beth a wnaf i ti Ephraim?
Beth a wnaf i ti Iowda?
Mae eich daioni fel cwmwl bore,
Neu fel gwlith y wawr, yn myned heibio!
5Am hyn cymynais hwynt trwy y prophwydi,
Lleddais hwynt â geiriau fy ngenau;
A bu dy farnau yn oleuni yn myned allan.
6Dïau daioni a ddymunais, ac nid aberth,
A gwybodaeth o Dduw yn fwy na phoeth-offrymau.
7Ond hwy, fel Adda, torasant gyfammod;
Yn hyn anffyddlawn a fuont i mi.
8Gilead — dinas gweithredwyr anwiredd oedd,
Halogedig gan waed.
9Ac fel y dysgwyl yspeiliaid ddyn,
Felly tyrfa’r offeiriaid, ar y ffordd;
Lladdant yn Sychem;
O herwydd y ddyfais a gyflawnant.
10Yn nhŷ Israel y gwelais erchylldod;
Yno y mae puteindra Ephraim;
Halogwyd Israel:
11Hefyd Iowda — gosododd blanigyn i ti,
Pan oeddwn yn dychwelyd gaethiwed fy mhobl!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.