1Pwy bynag sydd yn credu mai Iesu yw Crist, o Dduw y ganwyd ef; a phwy bynag a garo y cenedlydd, a gâr hefyd yr hwn a genedlwyd ganddo.
2Wrth hyn y gwyddom y carwn blant Duw, pan y carom Dduw, ac y cadwom ei orchymynion;
3oblegid hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynion; a’i orchymynion nid ydynt drymion:
4oblegid pwy bynag a anwyd o Dduw a orchfyga’r byd; a hon yw’r oruchafiaeth a orchfyga’r hyd, sef ein ffydd.
5Pwy yw yr hwn a orchfyga’r byd, onid yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw?
6Hwn yw Efe a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef lesu Grist; nid gyda dwfr yn unig, ond gyda dwfr a gwaed: yr Ysbryd hefyd a dystiolaetha; oblegid yr Ysbryd, gwirionedd yw.
7Oblegid tri a dystiolaethant yr Ysbryd, y dwfr, a’r gwaed; a’r tri, yn un y maent.
9Os tystiolaeth dynion a dderbyniwn, tystiolaeth Duw, mwy ydyw: oblegid hon yw tystiolaeth Duw a dystiolaethodd am ei Fab
10(yr hwn sy’n credu yn Mab Duw, y mae ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun; yr hwn nid yw yn credu Duw, gwnaeth Ef yn aneirwir, am na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab,)
11ïe, hon yw y dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragywyddol, a bod y bywyd hwn yn ei Fab.
12Yr hwn sydd ganddo y Mab, y mae bywyd ganddo: yr hwn nid oes ganddo y Mab, nid oes ganddo fywyd.
13Y pethau hyn a ysgrifenais atoch chwi a gredwch yn enw Mab Duw, fel y gwybyddoch fod genych fywyd tragywyddol, ac fel y credoch yn enw Mab Duw.
14A’r hyfder hwn sydd genym ynddo, y gwrendy ni, os gofynwn ddim yn ol ei ewyllys:
15ac os gwyddom y gwrendy ni am yr hyn a ofynom, gwyddom y cawn y gofynion a ofynwn ganddo.
16Os cenfydd neb ei frawd yn pechu pechod nad yw i farwolaeth, gofyned; a rhydd erddo fywyd i’r rhai na phechant i farwolaeth: y mae pechod i farwolaeth; nid hwn y dywedaf am iddo geisio am dano.
17Pob anghyfiawnder, pechod yw; ac y mae pechod nad yw i farwolaeth.
18Gwyddom na phecha y neb a anwyd o Dduw; ond yr hwn a anwyd o Dduw, ceidw ei hun; a’r un drwg ni chyffwrdd âg ef.
19Gwyddom ein bod o Dduw, a bod yr holl fyd yn gorwedd yn yr un drwg.
20Gwyddom hefyd ddyfod o Fab Duw, a rhoddi i ni wybodaeth, fel yr adwaenem yr Hwn sydd wir; ac yr ydym yn yr Hwn sydd wir ac yn ei Fab Iesu Grist: Hwn yw y gwir Dduw a’r bywyd tragywyddol.
21Blant anwyl! ymgedwch rhag eilunod. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.