1Clywch yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich mawr drueni a ddaw arnoch.
2Pydra eich cyfoeth, a bwytëir eich gwisgoedd gan bryfed;
3rhyda eich aur a’ch arian, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, a difa eich cnawd fel tân: casglwch drysor erbyn y dyddiau diweddaf.
4Wele cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meusydd, yr hwn a gamattaliwyd genych, llefain y mae; ac aeth dolefau y medelwyr i fyny i glustiau Arglwydd y lluoedd.
5Buoch yn gloddestu ar y ddaear ac yn ymdrythyllu; meithrinasoch eich calonau; fel ar ddydd y lladdfa:
6collfarnasoch, lladdasoch y cyfiawn; ni wrthwynebai chwi.
7Am hyny, frodyr, byddwch ymarhöus hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele dysgwyl y llafurwr am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, gan fod yn ymarhöus yn ei gylch, nes y derbynio y gwlaw cynnar a’r diweddar.
8Byddwch chwi hefyd yn ymarhöus; cadarnhewch eich calonau, oblegid dyfodiad yr Arglwydd sydd yn nesâu.
9Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner: wele y Barnwr, saif wrth y drws.
10Cymerwch yn gynllun, fy mrodyr, o ddyoddef adfyd ac o hirymaros, y prophwydi, a lefarasant yn enw yr Arglwydd.
11Wele dedwydd y cyfrifwn y rhai a ddyoddefant: clywsoch am amynedd Job, a gwelsoch ei ddiwedd gan yr Arglwydd: oblegid trathosturiol a thrugarog yw yr Arglwydd.
12Ond yn enwedig, fy mrodyr, na thyngwch, na thrwy’r nef, na thrwy’r ddaear, na thrwy un llŵ arall; ond bydded eich ïe yn ïe, a’ch nage yn nage, fel na syrthioch tan farn.
13A oddef neb adfyd yn eich plith? gweddïed; a oes neb yn llawen? caned;
14ai claf neb yn eich plith? galwed am henuriaid yr eglwys, a gweddïant drosto, gan ei eneinio âg olew yn enw yr Arglwydd;
15a gweddi y ffydd a achub y clwyfus, a chyfyd yr Arglwydd ef; ac os y gwnaeth bechodau, maddeuir iddo.
16Cyfaddefwch gamweddau i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel yr iachäer chwi: llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.
17Elias oedd ddyn o gyffelyb wendid â ninnau, a chan weddïo gweddïodd na wlawiai; ac ni wlawiodd ar y wlad dair blynedd a chwe’ mis;
18a gweddïodd drachefn, a rhoddodd y nef wlaw, a dygodd y ddaear ei ffrwyth.
19Frodyr, os gwyra neb yn eich plith oddiwrth y gwirionedd, a throi o neb ef,
20gwybydded y gwna yr hwn a dry bechadur oddiwrth ŵyrni ei ffordd, achub enaid rhag marwolaeth a chuddio llïaws o bechodau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.