1Yr henuriad at yr anwyl Gaius, yr hwn a garaf am y gwirionedd.
2Anwylyd, dymunaf i ti o ran pob peth lwyddo, a bod mewn iechyd, fel y llwydda dy enaid.
3Oblegid llawenhëais yn fawr, pan ddaeth y brodyr a thystiolaethu am dy wirionedd, fel y gwnai di rodio yn y gwirionedd.
4Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef clywed fod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd.
5Anwylyd, ffyddlawn y gwnai yr hyn wyt yn wneyd tuag at y brodyr a thuag at ddyeithriaid,
6y rhai a dystiolaethasant am dy gariad gerbron yr eglwys; y rhai os eu hebrynger mewn modd teilwng o Dduw, da y gwnai:
7canys er mwyn ei enw yr aethant allan heb dderbyn dim gan y cenedloedd.
8Dylem ni gan hyny dderbyn y cyfryw, fel y byddom yn gydweithredwyr o ran y gwirionedd.
9Ysgrifenais at yr eglwys; ond ni dderbyn ni Diotrephes, a gâr flaenori arnynt:
10o herwydd hyn, pan ddelwyf, adgoffâf ei weithredoedd a wna, gan ein goganu â geiriau enllibus; ac heb ymfoddloni ar hyny, ni dderbyn ei hun y brodyr, a’r rhai a ewyllysiant a wahardd ac a dafl allan o’r eglwys.
11Anwylyd, na ddilyn ddrwg, ond y da; yr hwn a wna dda, o Dduw y mae; ond yr hwn a wna ddrwg, ni welodd Dduw.
12Tystiolaethir yn dda am Demetrius gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; a ni hefyd a dystiolaethwn, a gwyddoch mai gwir yw ein tystiolaeth.
13Yr oedd genyf lawer o bethau i’w hysgrifenu, ond ni chwennychaf ysgrifenu atat âg inc a phin;
14ond gobeithiaf dy weled ar fyrder, fel y llefarom enau yn ngenau.
15Heddwch i ti. Anerch di y cyfeillion; anercha y cyfeillion wrth eu henwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.