Mica 6 - Prophets and Epistles 1852-62 (John Owen)

PENNOD VI.

1Clywch, attolwg, yr hyn a ddywed Iehofa:

Cyfod, dadleu ger bron y mynyddoedd,

A chlywed y bryniau dy lais:

2Clywch, fynyddoedd, ddadl Iehofa,

A chedyrn sylfeini y ddaear;

Canys dadl sydd rhwng Iehofa a’i bobl,

Ac âg Israel yr ymresyma:

3Fy mhobl, beth a wnaethum i ti?

Ac yn mha beth y blinais di?

Tystiolaetha i’m herbyn:

4O herwydd dygais di i fyny o wlad yr Aipht,

Ac o dŷ y caethiwed y gwaredais di,

Ac anfonais o’th flaen

Moses, Aaron, a Miriam.

5Fy mhobl, cofia, attolwg,

Beth a gynghorodd Balac, brenin Moab,

A pheth a atebodd iddo Balaam, mab Beor,

A pheth a fu o Sittim hyd Gilgal,

Fel y gwybyddot gyfiawnderau Iehofa.

6A pha beth y cyfarfyddaf â Iehofa,

Yr heddychaf Dduw yr uchelder?

A wnaf ei gyfarfod â phoethoffrymau,

A lloi blwyddyn oed?

7A foddlonir Iehofa a miloedd o hyrddod,

A deng mil o ffrydiau olew?

A roddaf fy nghyntafanedig am fy nhrosedd,

Ffrwyth fy lwynau am bechod fy enaid? —

8Dangosodd i ti ddyn beth sydd dda;

A pha beth a ofyn Iehofa oddiwrthyt,

Onid gwneuthur uniondeb, a charu trugaredd,

Ac ymostwng i rodio gyda’th Dduw?

9Llef Iehofa! ar y ddinas yn galw;

(A’r doeth a ofna dy enw)

Gwrandewch y wialen, a phwy a’i gosododd:

10A oes eto yn nhŷ yr anghyfiawn drysorau anghyfiawnder,

A’r mesur prin, llwyr adgas?

11A wnaf ei chyfrif hi yn lân sydd ganddi glorianau anghyfiawn,

A chôd o bwysau twyllodrus?

12Yr hon y bu ei chyfoethogion yn llawn trais,

A’i thrigolion yn traethu celwydd,

A’u tafod yn ddichellgar yn eu genau;

13Tra yr oeddwn I hefyd wedi dechreu dy daro,

Dy ddifrodi o herwydd dy bechodau.

14Bwyta a wnai di, ond ni’th ddigonir,

A’th wendid fydd o’th fewn;

Ymafli hefyd, ond ni waredi,

A’r rhai a waredi, i’r cleddyf a roddaf:

15Ti a haui, ond ni fedi;

Sethri di yr olewydd, ond nid eneini âg olew,

A’r gwin newydd, ond nid yfi win.

16Gan y cedwir deddfau Omri,

A’r hyn oll a wnaed gan dŷ Ahab,

Ac y rhodiwch yn ol eu cynghorion,

Am hyny, gwnaf di yn anghyfannedd,

A’th drigolion yn hwtian,

A gwarth pobloedd a ddygwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help