1Y DYDD cyntaf o’r wythnos, Maria Magdalen a ddaeth yn foreu, a hi etto yn dywyll, at y bedd; ac a welodd y maen wedi ei dynnu ymaith oddi ar y bedd.
2Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Pedr, a’r disgybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymaith o’r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.
3A Pedr a aeth allan, a’r disgybl arall; a hwy a ddaethant at y bedd:
4Ac a redasant ill dau ynghŷd: a’r disgybl arall a redodd o’r blaen yn gynt nâ Phedr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.
5Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn.
6Yna y daeth Simon Pedr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i’r bedd, ac a ganfu y llïeiniau wedi eu gosod;
7A’r napcyn a fuasai am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyd â’r llïeiniau, ond o’r neilldu, wedi ei blygu mewn lle arall.
8Yna yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd; ac a welodd, ac a gredodd.
9Canys hyd yn hyn ni wyddent yr ysgrythyr, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw.
10A’r disgyblion a aethant ymaith drachefn at yr eiddynt.
11Ond Maria a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wylo, hi a ymostyngodd i’r bedd;
12Ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gŵynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corph yr Iesu.
13A hwy a ddywedasant wrthi, Wraig paham yr wyt ti yn wylo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt fy Arglwydd i ymaith, ac na’s gwn pa le y dodasant ef.
14Ac wedi dywedyd o honi hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac ni’s gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe.
15Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio? Hithau yn tybied mai y garddwr oedd, a ddywedodd wrtho, Arlwydd, os tydi a’i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a’i cymmeraf ef ymaith.
16Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Maria. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, Fy Athraw.
17Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi: oblegyd ni ddyrchefais i etto at fy Nhad: eithr dos at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau.
18Maria Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion, weled o honi hi yr Arglwydd, a dywedyd o hono y pethau hyn iddi.
19Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gauad, lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghŷd, rhag ofn yr Iudaion, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
20Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw, a’i ystlys. Yna y disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd.
21A dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi.
22Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân.
23Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddio pwy bynnag a attalioch, hwy a attaliwyd.
24Eithr Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Y Gefell, nid oedd gyd â hwynt pan ddaeth yr Iesu.
25Y disgyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntau a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylaw ef ôl yr hoelion, a dodi fy mys yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
26Ac wedi wyth diwrnod, drachefn yr oedd ei ddisgyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth, a’r drysau yn gauad, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi.
27Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes, yma dy fys, a gwel fy nwylaw; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd anghredadyn, ond credadyn.
28A Thomas a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw!
29Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
30A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu y’ngŵydd ei ddisgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
31Eithr y pethau hyn a ysgrifenwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Christ, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.