1AC yn y fan yn y bore, yr ymgynghorodd yr arch-offeiriaid gyd â’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gynghor: ac wedi iddynt rwymo yr Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Pilatus.
2A gofynodd Pilatus iddo, Ai ti yw Brenhin yr Iudaion? Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
3A’r arch-offeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid attebodd efe ddim.
4A Pilatus a ofynodd iddo drachefn, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.
5Ond yr Iesu etto nid attebodd ddim; fel y rhyfeddodd Pilatus.
6Ac ar y wledd honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynent iddo.
7Ac yr oedd un a elwid Mab Abbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd â'i gyd-derfysgwŷr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.
8A’r dyrfa gan groch-lefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.
9A Pilatus a attebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhŷdd i chwi, Frenin yr Iudaion?
10(Canys efe a wyddai mai o gynfigen y traddodasai yr arch-offeiriaid ef)
11A’r arch-offeiriaid a gynhyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Mab Abbas yn rhŷdd iddynt.
12A Pilatus a attebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iudaion?
13A hwy a lefasant drachefn, Croes-hoelia ef.
14Yna Pilatus a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwy-fwy, Croes-hoelia ef.
15A Pilatus yn chwennych boddloni y bobl, a ollyngodd yn rhŷdd iddynt Mab Abbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groes-hoelio.
16A’r milwŷr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Praetorium: a hwy a alwasant ynghŷd yr holl fyddin.
17Ac a’i gwisgasant ef â phorphor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben;
18Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Hanffych well, Brenin yr Iudaion.
19A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef.
20Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porphor oddi am dano, ac a’i gwisgasant ef a’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groes-hoelio.
21A hwy a gymhellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rufus, i ddwyn ei groes ef.
22A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r ben-glog:
23Ac a roisant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe ni’s cymmerth.
24Ac wedi iddynt ei groes-hoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gai bob un.
25A’r drydedd awr oedd hi, a hwy a’i croes-hoeliasant ef.
26Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraphu, BRENIN YR IUDAION.
27A hwy a groes-hoeliasant gyd ag ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy iddo.
28A’r ysgrythyr a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyd â’r rhai anwir.
29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinystrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,
30Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes.
31Yr un fodd yr arch-offeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth eu gilydd gyd â'r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun ni’s gall ei wared.
32Disgyned Christ, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A’r rhai a groeshoeliesid gyd ag ef, a’i difenwasant ef.
33A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl wlad hyd y nawfed awr.
34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabacthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?
35A rhai a safent ger llaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Elïas.
36Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o wîn sûr, ac a’i dododd ar gorsen, ac a rhoddodd iddo i’w yfed, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elïas i’w dynnu ef i lawr.
37A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r yspryd.
38A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared.
39A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly, ymado â’r yspryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.
40Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ym mhlith y rhai yr oedd Maria Magdalen, a Maria mam Iakob fychan a Iose, a Salome;
41Y rhai hefyd, pan oedd efe yn Galilaia, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gyd ag ef i fynu i Ierusalem.
42Pan ydoedd hi weithian yn hwyr (am ei bod hi yn: ddarpar-wyl, sef y dydd cyn y sabbath)
43Daeth Ioseph o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am freniniaeth Duw; ac a aeth yn hy i mewn at Pilatus, ac a ddeisyfodd gorph yr Iesu
44A rhyfeddoedd gan Pilatus o buasai efe farw eisoes; ac wedi iddo alw y canwriad atto, efe a ofynodd iddo a oedd efe wedi marw er ys meityn.
45A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corph i Ioseph.
46Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
47A Maria Magdalen, a Maria mam Iose, a edrychasant pa le y dodid ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.