Luk 18 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XVIII.Am y weddw daer. Y Pharisai ar publican. Dwyn plant at Ghrist. Y llywydd a fynnai ganlyn Christ, ond a rwystrir gan ei gyfoeth. Y mae efe yn rhagfynegi ei farwolaeth; ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.

1AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastadol, ac heb ddiffygio;

2Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchái ddyn.

3Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth atto ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.

4Ac efe ni’s gwnai dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn.

5Etto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i.

6A’r Arglwydd a ddywedodd, Chwi a glywsoch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn,

7Ac oni ddïal Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt?

8Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dïal efe hwynt ar frys, pan ddêl Mab y dyn, os caiff efe ffydd ar y ddaear?

9Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill:

10Dau ŵr a aethant i fynu i’r deml i weddïo; un yn Pharisai, a’r llall yn bublican.

11Y Pharisai a safodd wrth ei hun ag a weddïodd fel hyn; O Dduw, yr wyf yn dïolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; nag fel y publican hwn.

12Yr wyf yn unprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymmu cymmaint oll ag a feddaf.

13A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai cymmaint a chodi ei olygon tu a’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog i mi bechadur.

14Dywedaf i chwi, Aeth hwn i wared i’w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn fwy nâ’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

15A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy.

16Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Gadêwch i’r plant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo y cyfryw rai yw breniniaeth Duw.

17Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio breniniaeth Duw fel plentyn, nid â efe i mewn iddi.

18A rhyw lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw da, pa beth a wnaf fel yr etifeddaf fi fywyd tragywyddol?

19A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y’m gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond un, sef Duw.

20Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam.

21Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o’m hieuengctid.

22A’r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae un peth etto yn ol i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion: a thi a gai drysor yn y nef: a dyred, canlyn fi.

23Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.

24A’r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i freniniaeth Duw!

25Canys haws yw i gable fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i freniniaeth Duw.

26A’r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?

27Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd analluog i ddynion, sydd alluog i Dduw.

28A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di.

29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu rïeni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn breniniaeth Duw.

30A’r ni’s derbyn lawer mwy yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.

31Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem; a chyflawnir pob peth a’r sydd yn ysgrifenedig trwy y prophwydi am Fab y dyn.

32Canys efe a draddodir i’r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a ammherchir, ac a boerir arno:

33Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a’r trydydd dydd efe a adgyfyd.

34A hwy ni ddeallasant ddim o’r pethau hyn; a’r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.

35A bu, ac efe yn nesâu at Iericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta:

36A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynodd pa beth oedd hyn.

37A hwy a ddywedasant, Mai Iesu o Nazaret oedd yn myned heibio.

38Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.

39A’r rhai oedd yn myned o’r blaen a’i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.

40A’r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef atto. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,

41Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael ohonof fy ngolwg.

42A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: dy ffydd a’th iachaodd.

43Ac yna y cafodd efe ei olwg, ac a’i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, a roisant foliant i Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help