1AC efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Iudaia, ar hyd y lan arall i’r Iordan; a’r bobloedd a gyd-gyrchasant atto ef: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd drachefn.
2A’r Pharisai, gwedi dyfod atto, a ofynasant iddo, Ai rhydd i wr roi ymaith ei wraig? gan ei brofi ef.
3Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi?
4A hwy a ddywedasant, Moses a ganiattaodd ysgrifenu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith.
5A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, o achos eich calon-galedwch chwi yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
6Ond o ddechreuad y greadigaeth Duw a’u gwnaeth hwynt yn wrryw a benyw.
7Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;
8A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.
9Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.
10Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.
12Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gwr, a phriodi un arall, y mae hi yn godinebu.
13A hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.
14A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfoddlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadêwch i blant bychain ddyfod attaf fi, ac na waharddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw breniniaeth Duw.
15Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio breniniaeth Duw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
16Ac efe a’u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylaw arnynt, ac a’u bendithiodd.
17Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un atto a gostyngodd iddo, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?
18A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.
19Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ladratta, Na cham dystiolaetha, Na cham-golleda, Anrhydedda dy dad, a’th fam.
20Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuengctid.
21A’r Iesu, gan edrych arno, a’i carodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sy gennyt, a rho i’r tlodion; a thi a gai drysor yn y nef: a dere, cymmer y groes, a dilin fi.
22Ac efe â bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.
23A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i freniniaeth Duw!
24A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a attebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i freniniaeth Duw!
25Y mae yn haws i rhaff ancor fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i freniniaeth Duw.
26A hwy a synnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig?
27A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyd â dynion mae hyn yn analluog, ac nid gyd â Duw: canys pob peth sydd alluog gyd â Duw.
28Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di.
29A’r Iesu a attebodd ag a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl.
30A’r ni dderbyn y can cymmaint, a bywyd tragywyddol yw y byd a ddaw.
31Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf; a’r rhai olaf yn flaenaf.
32Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fynu i Ierusalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen: a hwy a frawychasant, ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo:
33Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem; a Mab y dyn a draddodir i’r arch-offeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i barnant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd:
34A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr adgyfyd.
35A daeth atto Iakob ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd, Athraw, ni a fynnem wneuthur o honot i ni yr hyn a ddymunem.
36Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?
37Hwy a ddywedasant wrtho, Caniattâ i ni eistedd, un ar dy ddeheu-law, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.
38Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwppan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef?
39A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Dïau yr yfwch o’r cwppan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau:
40Ond eistedd ar fy neheu-law a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd.
41A phan glybu y deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfoddlon ynghŷlch Iakob ac Ioan.
42A’r Iesu a’u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir yn deilwng i lywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr yn tra-awdurdodi arnynt.
43Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;
44A phwy bynnag o honoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.
45Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes er rhyddid i lawer.
46A hwy a ddaethant i Iericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Iericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, yr oedd Bartimëus ddall, mab Timëus, yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardotta.
47A phan glybu mai’r Iesu o Nazaret ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
48A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn o lawer, Mab Dafydd, trugarhâuwch wrthyf.
49A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymmer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
50Ac efe, gan daflu ei fantell ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.
51A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Fy Athraw, caffael o honof fy ngolwg.
52A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hŷd y ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.