Luk 4 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD IV.Profiad ac unpryd Christ. Pobl Nazaret yn rhyfeddu am ei eiriau grasusol ef. Y mae efe yn iachâu yn cythreulig, a mam gwraig Pedr, a llawer o gleifion eraill. Y cythreuliaid yn cydnabod Christ. Y mae efe yn pregethu trwy y dinasoedd.

1A’R Iesu yn llawn o’r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iordan, ac a arweiniwyd gan yr yspryd i’r anialwch,

2Yn cael ei brofi gan ddiafol ddeugain diwrnod. Ac ni fwyttaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, daeth arno chwant bwyd.

3A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon, fel y gwneler hi yn fara.

4A’r Iesu a attebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw.

5A diafol wedi ei gymmeryd ef i fynu i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl lywodraethau y byd cyfaneddawl mewn munud o amser.

6A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.

7Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll.

8A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ol i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.

9Ac efe a’i dug ef i Ierusalem, ac a’i gosododd ar ben y deml; ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma.

10Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di:

11Ac y cyfodant di yn eu dwylaw, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.

12A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na phrofa yr Arglwydd dy Dduw.

13Ac wedi i ddiafol orphen yr holl brofedigaeth, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

14A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr yspryd i Galilaia: a son a aeth amdano ef trwy yr holl fro oddi amgylch.

15Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.

16Ac efe a ddaeth i Nazaret, lle y magesid ef: ac yn ol ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y sabbath, ac a gyfododd i fynu i ddarllen.

17A rhodded atto lyfr y prophwyd Esaias: Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,

18Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, o herwydd iddo fy enneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iachâu y drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb;

19I bregethu blwyddyn gymmeradwy yr Arglwydd.

20Ac wedi iddo gau y llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.

21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr hon yn eich clustiau chwi.

22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph?

23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollawl y dywedwch y ddiareb hon wrthyf, Meddyg, iachâ dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yn Kapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun.

24Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun.

25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Elïas, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy yr holl dir;

26Ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elïas, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.

27A llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elissaia y prophwyd; ac ni lanhawyd yr hun o honynt, ond Naaman y Syriad.

28A’r rhai oll yn y synagog a lanwyd o ddigofaint, wrth glywed y pethau hyn;

29Ac a godasant i fynu, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl dros y dibyn.

30Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;

31Ac a ddaeth i wared i Kapernaum, dinas yn Galilaia: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau sabbath.

32A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gyd ag awdurdod.

33Ac yr oedd dyn yn y synagog â chanddo yspryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,

34Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazaret? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.

35A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan o hono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo.

36A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn? gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn myned allan.

37A son am dano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch.

38A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd twym: a hwy a attolygasant arno drosti hi.

39Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi; ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.

40A phan fachludodd yr haul, pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a’u dygasant hwy atto ef; ac efe a roddes ei ddwylaw ar bob un o honynt, ac a’u hiachaodd hwynt.

41Ar cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, dan lefain a dywedyd, Ti yw Christ, Mab Duw. Ac efe a’u ceryddodd hwynt, ac nid adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Christ.

42Ac wedi iddi ddyddhai, efe a aeth allan, ac a gychwynodd i le angyfanedd: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef, a hwy a ddaethant hyd atto, ac a’i hattaliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt.

43Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu breniniaeth Duw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y’m danfonwyd.

44Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilaia.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help