1AC yn niwedd y sabbath, a hi yn dyddhâu i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Maria Magdalen, a’r Maria arall, i edrych y bedd.
2Ac wele, bu daear-gryn mawr: canys disgynodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.
3A’i wyneb-pryd oedd fel goleuni, a’i wisg yn wen fel eira.
4A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.
5A’r angel a attebai ac a ddywedai wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd.
6Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddai yr Arglwydd.
7Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilaia: yno y gwelwch ef. Wele, mynegais i chwi.
8Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd ag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.
9Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i cyfarchasant.
10Yna y dywedai yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel y elont i Galilaia, ac yno y’m gwelant i.
11Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12Ac wedi iddynt ymgasglu ynghŷd gyd â’r henuriaid, a chyd-ymgynghori, hwy a roisant arian lawer i’r milwŷr,
13Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hŷd nos, ac a’i lladrattasant ef, a nyni yn cysgu.
14Ac os clyw y llywodraethwr hyn, ni a’i cyngorwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15A hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thanwyd y gair hwn ym mhlith yr Iudaion hyd y dydd heddyw.
16A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilaia, i’r mynydd lle y pennodasai yr Iesu iddynt.
17A phan welsant ef, hwy a’i cyfarchasant ef: ac ni amheuasant.
18A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
19Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân;
20Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyd â chwi bob amser hyd ddiwedd yr oes. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.