Ioan 10 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD X.Christ yw y drws, a’r bugail da. Y mae efe yn profi trwy ei weithredoedd, mai efe yw Christ Mab Duw: ac yn diangc rhag yr Iudaion, ac yn myned drachefn dros yr Iordan, lle y credodd llawer ynddo ef

1YN wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn trwy y drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, sy leidr ac yspeiliwr.

2Ond yr hwn sydd yn myned i mewn trwy y drws, yw bugail y defaid.

3I hwn y mae y drysor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrandaw ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid wrth eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.

4Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegyd y maent yn adnabod ei lais.

5Ond y dieithr ni’s canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegyd nad adwaenant lais dieithriaid.

6Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru.

7Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.

8Cynnifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, ydynt ladron ac yspeilwŷr: eithr ni wrandawai y defaid arnynt.

9Myfi yw y drws: os a neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.

10Ni ddaw lleidr ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaeth.

11Myfi wyf y bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.

12Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio, ac yn tarfu y defaid.

13Y mae y gwas cyflog yn ffoi, oblegyd mai gwas cyflog yw, ac nid oes arno ofal am y defaid.

14Myfi yw y bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadweinir gan yr eiddof fi.

15Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid.

16A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.

17Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymmerwyf hi drachefn,

18Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymmeryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.

19Yna y bu drachefn ymraniad ym mysg yr Iudaion, am yr ymadroddion hyn.

20A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandêwch chwi arno?

21Eraill a ddywedasant, Nid yw y rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?

22Ac yr oedd y gyssegr-wledd yn Ierusalem, yn amser gauaf.

23Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y deml, ym mhorth Solomon.

24Am hynny y daeth yr Iudaion yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hŷd yr wyt yn peri i ni ammeu? os tydi yw y Christ, dywed i ni yn eglur.

25Yr Iesu a attebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, ydynt yn tystiolaethu am danaf fi.

26Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.

27Y mae fy nefaid i yn gwrandaw fy llais; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i:

28A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.

29Fy Nhad i yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy nâ phawb: ac ni’s gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad.

30Myfi a’r Tad ydym ûn.

31Am hynny y cododd yr Iudaion gerrig drachefn i’w labyddio ef.

32Yr Iesu a attebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?

33Yr Iudaion a attebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thi yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.

34Yr Iesu a attebodd iddynt, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi. Mi a ddywedais, Duwiau ydych?

35Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, a’r ysgrythyr ni’s gellir ei thorri:

36A ddywedwch chwi wrth yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, Yr wyt ti yn cablu; (am i mi ddywedyd,) Mab Duw ydwyf?

37Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi.

38Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd: fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.

39Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddiangodd allan o’u dwylaw hwynt.

40Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iordan, i’r man lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.

41A llawer a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oeddynt wir.

42A llawer yno a gredasant ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help