1A Bu, pan orphenodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.
2A pan glybu Ioan yn y carchar am weithredoedd Christ, efe a ddanfonodd atto ddau o’i ddisgyblion.
3Ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw yr hwn oedd i ddyfod, ai ydym ni i ddisgwyl am arall?
4A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch.
5Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, ar cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhâu, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu newyddion da iddynt.
6A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi.
7¶ Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd dywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych am dano? ai corsen yn ysgwyd gan wŷnt?
8Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn wedi ei wisgo a dillad hardd? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad hardd ydynt mewn tai brenhinoedd.
9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai prophwyd? ïe, meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.
10Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o’th flaen.
11Yn wir meddaf i chwi, Ym mhlith plant gwragedd ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn yr lywodraeth nefoedd sydd fwy nag ef.
12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio’r lywodraeth nefoedd, a threiswyr sy’n ei gertrechu hi.
13Canys yr holl brophwydi a’r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan.
14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod.
15Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
16¶ Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadlefidd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,
17Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.
18Canys daeth Ioan heb na bwytta nac yfed; a dywedant, Y mae cythraul ynddo.
19Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; a dywedant, Wele, ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. Felly doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.
20Yna y dechreuodd efe argyhoeddi y dinasoedd yn y rhai y gwnaethwyd y rhan fwyaf o’i wyrthiau ef, am nad edifarhasent.
21Gwae i di, Chorazin; gwae i di, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasant er ys talm mewn sach a lludw.
22Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon, yn nydd barn, nag i chwi.
23A thydi, Kapernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd y bedd: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn parhau hyd heddyw.
24Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom, yn nydd y farn, nag i ti.
25¶ Yr amser hwnnw yr attebodd yr Iesu ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a’r deallus, a’u datguddio o honot i fabanoed.
26Bydded, O Dad; canys felly y rhyngodd bodd i ti.
27Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.
28¶ Deuwch attaf fi, bawb ag y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a’ch esmwythâf.
29Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphwysdra i’ch eneidiau.
30Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.