1Y PETHAU hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau:
2Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragywyddol.
3A hyn yw y bywyd tragywyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a Iesu Ghrist, yr hwn a anfonaist.
4Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur.
5Ac yr awrhon, O Dad, gogonedda di fyfi gyd â thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyd â thi cyn bod y byd.
6Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist i mi; a hwy a gadwasant dy air di.
7Yr awr hon y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae yr holl bethau a roddaist i mi.
8Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y ddaethum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i.
9Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt.
10A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.
11Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod attat ti. Y Tad sanctaidd, cadw trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau.
12Tra bum gyd a hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi a gedwais, ac ni chollwyd o honynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythyr.
13Ac yr awrhon yr wyf yn dyfod attat: ar pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
14Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegyd nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd.
15Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymmeryd allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw rhag y drwg.
16O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd.
17Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.
18Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd.
19Ac er eu mwyn yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.
20Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd:
21Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a’m hanfonaist i.
22A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un:
23Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo y byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu o honot hwynt, megis y ceraist fi.
24Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn dymyno, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegyd ti a’m ceraist cyn seiliad y byd.
25Y Tad cyfiawn, nid adnabu y byd dydi: eithr mi a’th adnabum, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i.
26Ac mi a hyspysais iddynt dy enw, ac a’i hyspysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.