1A’R Iesu a aeth i mewn, ac a deithiodd trwy Iericho.
2Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Zacchaius, ac efe oedd brif publican, ac yn gyfoethog.
3Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pa fath ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fyr o faintiolu.
4Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwŷdden, fel y gallai ei weled ef: oblegyd yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fynu, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Zacchaius, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen.
7A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned o hono ef i mewn i lettya at ŵr pechadurus.
8A Zacchaius a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy nâ, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamwedd, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
9A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.
10Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11Ac a hwy yn gwrandaw ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod efe yn agos i Ierusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai breniniaeth Duw yn y fan.
12Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn breniniaeth iddo ei hun, ac i ddychwelyd.
13Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnattêwch hyd oni ddelwyf.
14Eithr ei ddinaswŷr a’i casasant, ac a ddanfonasant gennadwri ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i lywodraethu arnom.
15A bu, pan ddaeth efe yn ei ol, wedi derbyn y freniniaeth, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnatta.
16A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a ynnillodd ddeg punt.
17Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.
18A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.
19Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas.
20Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn:
21Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr traws: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.
22Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr traws, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:
23A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel pan ddaethwn y gallaswn ei gael gyd â llog?
24Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo.
25(A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt)
26Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes fawr ganddo, y dygir oddi arno, ïe, yr hyn sydd ganddo.
27A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynnasent i mi lywodraethu arnynt, dygwch hwynt yma, a heddwch ger fy mron i.
28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fynu i Ierusalem.
29Ac efe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion,
30Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfodi mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym ar yr hwn nid eisteddodd dŷn eriôed: gollyngwch ef, a dygwch yma.
31Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? dywedwch fel hyn, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho.
32A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.
33Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho.
35A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.
36Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd.
37Ac weithian, ac efe yn nesâu at goriwaered mynydd yr Olewŷdd, dechreuodd yr holl lïaws ddisgyblion lawenhâu, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;
38Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenhin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39A rhai o’r Pharisai o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athraw, cerydda dy ddisgyblion.
40Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan.
41Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd y ddinas, efe a wylodd drosti,
42Gan ddywedyd, Pe gwybuasit dithau, ïe, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43Canys daw y dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth;
44Ac a’th wnant yn gyd-wastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Tŷ gweddi yw fy nhŷ i: eithr chwi ai gwnaethoch yn ogof lladron.
47Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml: a’r arch offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;
48Ac ni fedrasant beth i wneud, canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrandaw arno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.