Luk 6 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD VI.Christ yn argyhoeddi dallineb y Pharisai ynghŷlch cadw y sabbath: yn dewis deuddeg apostol: yn iachâu y cleifion: yn pregethu i’w ddisgyblion. Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion; a chysylltu ufudd-dod ynghyd â gwrandaw y gair; rhag, yn nydd profedigaeth, i ni syrthio fel tŷ, heb sylfaen.

1A BU ar yr ail sabbath, fyned o hono trwy yr ŷd: â’i ddisgyblion a dynnasant y tywys, ac a’u bwyttasant, gwedi eu mesglu â’u dwylaw.

2A rhai o’r Pharisai a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y sabbathau?

3A’r Iesu gan atteb iddynt, a ddywedodd, Oni ddarllenasoch, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gyd ag ef.

4Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Duw, ac y cymmerth ac y bwyttaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gyd ag ef: yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwytta, ond i’r offeiriaid yn unig?

5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd, ïe, ar y sabbath.

6A bu hefyd ar sabbath arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn â’i law ddehau wedi gwywo.

7A’r ysgrifenyddion a’r Pharisai a’i gwyliasant ef, a iachai efe ef ar y sabbath; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.

8Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.

9Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y sabbathau? gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?

10Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

11A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.

12A bu yn y dyddiau hynny, fyned o hono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhâu ar hŷd y nos yn gweddïo ar Duw.

13A phan daeth hi yn ddydd, efe a alwodd atto ei ddisgyblion: ac o honynt efe a etholodd deuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn Apostolion;

14Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr) ac Andreas ei frawd; Iakob ac Ioan; Philip, a Bartholomai;

15Matthai, a Thomas; Iakob fab Alphëus, a Simon a elwir Zelotes;

16Iudas brawd Iakob, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.

17Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastattir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iudaia a Ierusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrandaw arno, ac i’w hiachâu o’u clefydau;

18A’r rhai a flinid gan ysprydion aflan: a hwy a iachawyd.

19A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned allan o hono, ac yn iachâu pawb.

20Ac efe a edrychodd ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwŷn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw breniniaeth Duw.

21Gwŷn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwŷn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon i canys chwi a chwerddwch.

22Gwŷn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.

23Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemmwch: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegyd yr un modd y gwnaeth eu tadau hwynt i’r prophwydi.

24Eithr gwae chwi y cyfoethogion: canys derbyniwch eich diddanwch.

25Gwae chwi y rhai llawn: canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awr hon: canys chwi a alerwch ac a wylwch.

26Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda am danoch: canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gaubrophwydi.

27Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrandaw, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casant:

28Bendithiwch y rhai a’ch melldithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant.

29Ac i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy wisg hefyd.

30A dyro i bob un a geisio gennyt, a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilwaith.

31Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un modd.

32Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegyd y mae pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a’u câr hwythau.

33Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegyd y mae y pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.

34Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegyd y mae y pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.

35Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg.

36Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.

37Ac na fernwch, ac ni’ch bernir: na chospwch, ac ni’ch cospir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:

38Rhoddwch, a rhoddir i chwi: mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys a’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt: A ddichon y dall dywyso’r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?

40Nid yw y disgybl uwch law ei athraw: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athraw.

41A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf; ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.

44Oblegyd pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar ddrysi yr heliant rawnwin.

45Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.

46Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?

47Pwy bynnag a ddêl attaf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb.

48Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llif-ddyfroedd a gurasant ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.

49Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a mawr oedd dinystr y tŷ hwnnw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help