Matthaw 15 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XV.Christ yn argyhoeddi’r Ysgrifenyddion ar Pharisai, yn iachau merch y wraig o Ganaan, ac yn porthu y torfeydd.

1YNA’R ysgrifenyddion a’r Pharisai, y rhai oeddent o Ierusalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ymofyn,

2Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylaw pan fwyttaont fara.

3Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?

4Canys Duw a orchymynodd gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam; a’r hwn a rho ddrygair i’w dad neu i’w fam lladder ef yn farw.

5Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Os dywed un wrth ei dad neu’i fam, y lles y cewch oddi wrthyf fi, ydyw fy rhodd i, etto ni ddianrhydedda ei dad neu’i fam.

6Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddi-rym trwy eich traddodiad eich hun.

7Oh ragrithwŷr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd,

8Y mae y bobl hyn yn nesâu attaf a’u genau, ac yn fy anrhydeddu a’u gwefusau; ond eu calon sydd yn pellhau oddi wrthyf.

9Ac yn ofer y’m anrhydeddant i, gan ddysgu yn athrawiaeth traddodiadau dynion.

10Ac wedi iddo alw y dyrfa atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deallwch.

11Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn.

12Yna y daeth ei ddisgyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Pharisai wrth glywed yr ymadrodd hyn?

13Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn ni’s plannodd fy Nhad nefol a ddiwreiddir.

14Gadêwch iddynt: tywysoddion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.

15A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon.

16A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau etto heb ddeall?

17Onid ydych chwi yn deall fod pob peth sydd yn myned i mewn i’r genau yn cwympo i’r bola, ac yn cael ei fwrw allan i’r geudy?

18Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau, sy’n dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny halogant ddyn.

19Canys o’r galon y daw allan ymadroddion drwg, lladdiadau, godinebau, putteindra, lladradau, cam dystiolaethau, cablau.

20Dyma’r pethau sy’n halogi dyn: eithr bwytta â dwylaw heb olchi ni haloga ddyn.

21A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22Ac wele, gwraig o Canaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthyf, Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.

23Eithr nid attebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hol.

24Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.

25Ond hi a ddaeth ac a’i cyfarchodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.

26Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cwn.

27Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: etto y mae’r cwn yn bwytta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.

28Yna’r attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno.

29A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth ger llaw llyn Galilaia ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30A daeth atto dorfeydd lawer, a chanddynt gyd â hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt:

31Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyd â mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt i’w fwytta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymmaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymmaint?

34A’r Iesu a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.

35Ac efe a orchymynodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear.

36A chan gymmeryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’i ddisgyblion i’r dyrfa.

37A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briw-fwyd oedd y’ngweddill, saith fasgedaid yn llawn.

38A’r rhai a fwyttasant oedd bedair mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

39Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i fâd, ac a ddaeth i barthau Magdala.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help