1Y PETHAU hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi.
2Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae yr awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw.
3A’r pethau hyn a wnant i chwi, oblegyd nad adnabuant y Tad, na myfi
4Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyd â chwi.
5Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd, ac nid oes neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned?
6Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.
7Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi: Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw y Diddanydd attoch: eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef attoch.
8A phan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn:
9O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi;
10O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach;
11O farn, oblegyd llywydd y byd hwn a farnwyd.
12Y mae gennyf etto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awrhon.
13Ond pan ddêl efe, sef Yspryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara o hono ei hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara: ac efe a fynega i chwi y pethau sydd i ddyfod.
14Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymmer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.
15Yr holl bethau sydd eiddo y Tad, ydynt eiddof fi: o herwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymmer, ac y mynega i chwi.
16Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch: a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch; am fy mod yn myned at y Tad.
17Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth eu gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch: a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad?
18Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae yn ei ddywedyd.
19Yna y gwybu yr Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegyd i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch: a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch?
20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
21Gwraig wrth esgor, sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plentyn, nid yw hi yn cofio ei chystudd mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd.
22A chwithau am hynny ydych yr awrhon mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
23A’r dydd hwnnw ni ofynwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynoch i’r Tad yn fy enw, efe a’i rhydd i chwi.
24Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynwch, a chwi a gewch: fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
25Y pethau hyn a lefarais wrthych mewn damhegion: eithr y mae yr awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad.
26Y dydd hwnnw y gofynwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch:
27Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.
28Mi a ddaethum allan oddi wrth y Tad, ac a ddaethum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad.
29Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr, yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddammeg.
30Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw.
31Yr Iesu a’u hattebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?
32Wele, y mae yr awr yn dyfod, ac yr awrhon hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadêwch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegyd y mae y Tad gyd a myfi.
33Y pethau hyn a ddywedais wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd cystudd a gewch: eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.