1AC efe a edrychodd ac a ganfu y rhai goludog yn bwrw rhoddion i’r drysorfa.
2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, i’r wraig weddw dlawd hon fwrw i mewn fwy nâ hwynt oll.
4Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymmau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywoliaeth a oedd ganddi.
5Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,
6Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r ni’s dattodir.
7A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?
8Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw; ar amser sydd yn nesâu: nac ewch gan hynny ar eu hol hwynt.
9A phan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf; ond ni ddaw y diwedd yn y man.
10Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenhedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a breniniaeth yn erbyn breniniaeth:
11A daear-grynfaau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fyddant o’r nef.
12Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylaw arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraethwŷr o achos fy enw i.
13Eithr hyn a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14Am hynny rhoddwch eich bryd ar na rag-fyfyrioch beth a atteboch.
15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon ni’s gall eich holl wrthwynebwŷr na dywedyd yn ei herbyn, na’i gwrth-sefyll.
16A chwi a draddodir, ïe, gan rïeni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai o honoch y parant farwolaeth.
17A chas fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i.
18Ond ni chyll gwalltyn o’ch pen chwi.
19Trwy eich amynedd y meddiennwch eich eneidiau.
20A phan weloch Ierusalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfannedd-dra hi wedi nesâu.
21Yna y rhai fyddant yn Iudaia, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant: a’r rhai a fyddant yn y meusydd, nac elont i mewn iddi.
22Canys dyddiau dial ydynt y rhai hyn, i gyflawni yr holl bethau a ysgrifenwyd.
23Eithr gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny: canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.
24A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Ierusalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.
25A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r ser; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng-gyngor; a’r môr ar tonnau yn rhuo;
26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegyd nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
27Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmmwl, gyd â gallu a gogoniant mawr.
28A phan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesâu.
29Ac efe a ddywedodd ddammeg iddynt: Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl breniau;
30Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch wrthynt, fod yr haf yn agos.
31Felly, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod breniniaeth Duw yn agos.
32Yn wir meddaf i chwi, Nid â y genedl hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.
33Y nef ar ddaear a ant heibio; ond fy ngeiriau i nid ant heibio.
34Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhâu trwy lythineb a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth.
35Canys efe a ddaw fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.
36Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn.
37A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewŷdd.
38A’r holl bobl a foreu-gyrchent atto ef yn y deml, i’w glywed ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.