1AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Iudaia, yn nyddiau Herod, wele y Magi a ddaethant o’r dwyrain i Ierusalem gan ymofyn.
2Pa le y mae’r hwn a anwyd yn frenin i’r Iuddaion? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i’w gyfarch ef.
3Pan glybu y brenin Herod am hyn, efe a gythryblwyd, a holl Ierusalem gyd ag ef.
4A gwedi dwyn ynghŷd yr holl arch-offeiriaid, a ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd a hwynt, pa le genid y Christ.
5Hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem yn Iudaia; canys fel hyn yr ysgrifenwyd gan y prophwyd,
6A tydi Bethlehem yn dir Iudaia, nid wyt y lleiaf yn mlith y llywodraetheu yn Iudaia; canys o honot ti y daw llywydd yr hwn a bortha fy mhobl Israel.
7Yna Herod yn galw y Magi yn ddirgel, a gafodd lawn wybodaeth am amser ymddagosiad y seren.
8A gan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynwch yn fanwl am y mab bach; a pan gaffoch ef, hyspyswch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod i’w gyfarch ef.
9A hwy gwedi clywed y brenin a aethant allan: ac wele y seren a welsant yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy, hyd iddi fyned a sefyll goruwch y lle yr oed y mab bach.
10A phan welsant y seren felly, llawenychasant a llawenydd mawr rhagorol.
11A pan aethant i’r tŷ, hwy a gawsant y mab bach gyd â Maria ei fam, yna gan ymostyngu cysanasant ef; ac wedi agorid eu sacheu cynnygasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.
12Ac wedi eu rhybuddio gan freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a giliasant i’w gwlad trwy ffordd arall.
13Ac wedi iddynt ymadaw, wele cennad yr Arglwydd yn ymddangos i Ioseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bach a’i fam, a ffo i’r Aigypt, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys y mae Herod yn ceisio y mab bach i’w ladd ef.
14Yna fe a gyfododd ac a gymmerodd y plentyn a’i fam o hŷd nos, ac a giliodd i’r Aigypt.
15Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod; fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, pan ddywedodd, O’r Aigypt y gelwais fy mab.
16Yna Herod pan weles ei dwyllo gan y Magi, a ffrommodd yn fawr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd pob bachgen a oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, yn ol yr amser y gafodd wybodaeth oddi wrth y Magi.
17Y pryd hynny y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremias y prophwyd, pan ddywedodd,
18Llef a glywyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr; Rachel yn wylo am ei meibion, ac ni chymmerai ei chysuro, o herwydd nad oeddynt,
19Ond pan fu farw Herod, wele cennad yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseph yn yr Aigypt,
20Gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y mab bach a’i fam, a dos i dir Israel: canys bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn.
21Yna cyfododd a cymmerodd y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel.
22Eithr pan glybu fod Archelaos yn llywodraethu ar Iudaia yn lle Herod ei dad, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rhybyddio mewn breuddwyd efe a giliodd i barthau Galilaia.
23Ac a aeth, ac a drigodd mewn dinas a elwid Nazaret: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, Y fe a geiff ei alw yn Nazaraiad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.