1A’R trydydd dydd yr oedd prïodas yn Cana Galilaia, a mam yr Iesu oedd yno.
2A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r brïodas.
3A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt win,
4Iesu a ddywedodd wrthi, Beth yw hynny i mi a thi, wraig? ni ddaeth fy awr i etto.
5Ei fam a ddywedodd wrth y gwasanaethwŷr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
6Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini wedi eu gosod, yn ol defod puredigaeth yr Iudaion, y rhai a ddalient bob un ddau alwyn neu dri.
7Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl.
8Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.
9A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwŷr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y prïod-fab,
10Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd yn gyntaf y gwin da; ac wedi iddynt feddwi, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yn awr.
11Hyn o ddechreu gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilaia, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.
12Wedi hyn efe a aeth i wared i Kapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion; ac yno nid arhosasant lawer o ddyddiau.
13A phasg yr Iudaion oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fynu i Ierusalem;
14Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychain, a defaid, a cholommennod, a’r newidwŷr arian yn eistedd.
15Ac wedi gwneuthur fflangell o fan reffynnau, efe â’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychain; ac a dywalltodd allan arian y newidwŷr, ac a ddymchwelodd y byrddau:
16Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colommennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.
17A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Zel dy dŷ di a’m hysyodd i.
18Yna yr Iudaion a attebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?
19Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinystriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.
20Yna yr Iudaion a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau?
21Ond efe a ddywedasai am deml ei gorph.
22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt: a hwy a gredasant yr ysgrythyr, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23Ac fel yr oedd efe yn Ierusalem ar y pasg yn y wledd, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled yr arwyddion a wnaethai?
24Ond nid ymddiriedodd yr Iesu ei hun iddynt, am yr adwaenai efe hwynt oll;
25Ac nad oedd raid o neb dystiolaethu iddo am ddyn: o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.