1AC efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Rhaid i rhwystrau ddyfod; ond gwae efe trwy yr hwn y deuant.
2Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin assyn o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.
3Edrychwch arnoch eich hunain; os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.
4Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi attat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddeu iddo.
5A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffydd ni.
6A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddai gennych ffydd gymmaint a gronyn o had mwstard, chwi a ellych ddywedyd wrth y sycamor-wŷdden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhâi i chwi.
7Eithr pwy o honoch ag iddo was yn aredig, neu yn bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwytta?
8Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i giniawa, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwytta ac yfed; ac wedi hynny y bwyttâi ac yr yfi dithau?
9Oes ganddo ddïolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur o hono y pethau a orchymynasid iddo? Nid oes tybied.
10Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegyd yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom.
11Bu hefyd, ac efe yn teithio i Ierusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilaia.
12A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wyr gwahan-gleifion, y rhai a safasant o hirbell:
13A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Arlwydd, trugarhâ wrthym.
14A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt.
15Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.
16Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddïolch iddo. A Samariad oedd hwn.
17A’r Iesu gan atteb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw?
18Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.
19Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd.
20A phan ofynodd y Pharisai iddo, pa bryd y deuai breniniaeth Duw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw breniniaeth Duw wrth ddisgwyl.
21Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele accw; canys wele, breniniaeth Duw sydd o’ch mewn chwi.
22Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwennychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac ni’s gwelwch.
23A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele accw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.
24Canys megis y mae y fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.
25Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, ai wrthod gan y genhedlaeth hon.
26Ac megis y bu yn nyddiau Noë, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.
27Yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn gwreica, yn gŵra, hyd y dydd yr aeth Noë i mewn i’r arch; a daeth y diluw, ac a’u difethodd hwynt oll.
28Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y gwlawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll:
30Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
31Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgyned i’w cymmeryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un modd na ddychweled yn ei ol.
32Cofiwch wraig Lot.
33Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywhâ hi.
34Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir.
35Dwy a fydd yn malu yr un pryd; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir.
36Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymmerir, ar llall a adewir.
37A hwy a attebasant ac a ddwedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corph, yno yr ymgasgl yr eryrod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.