1A BU, wedi i’r Iesu orphen y geiriau hyn oll, iddo ddywedyd wrth ei ddisgyblion,
2Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg, a Mab y dyn a draddodir i’w groes-hoelio.
3Yna yr ymgasglodd yr arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr arch-offeiriaid, yr hwn a elwid Kaiaphas:
4A hwy a gyd-ymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.
5Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar y wledd, rhag bod cynnwrf ym mhlith y bobl.
6Ac a’r Iesu yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahanglywfus,
7Daeth atto wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.
8A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorrasant, gan ddywedyd, I pa beth y bu’r golled hon?
9Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion.
10A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.
11Oblegyd y mae gennych y tlodion bob amser gyd â chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser.
12Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorph, a wnaeth hyn i’m claddu i.
13Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregethyr yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi.
14Yna’r aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Iudas Iscariot, at yr arch-offeiriaid,
15Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg dryllin ar hugain o arian.
16Ac o hynny allan efe a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef.
17Ac ar y dydd cyntaf o wledd y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni barottôi i ti fwytta’r pasg?
18Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyd â thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion.
19A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchymynasai yr Iesu iddynt, ac a barottoisant y pasg.
20Ac wedi iddi hwyrhai, efe a eisteddodd gyd â’r deuddeg.
21Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedai, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un o honoch chwi a’m bradycha i.
22A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
23Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyd â mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i.
24Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig am dano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn: da a fuasai i’r dyn hwnnw pe na’s ganesid ef.
25A Iudas, yr hwn a’i bradychodd ef, a attebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athraw? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a’i dywedaist.
26Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrai, ac a’i rhoddai i’r disgyblion, ac a ddywedai, Cymmerwch, bwyttêwch hwn yw fy nghorph.
27Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:
28Canys hwn yw fy ngwaed o’r cyfammod newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.
29Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwŷdden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd yn freniniaeth fy Nhad.
30Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewŷdd.
31Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir heno o’m plegyd i: canys ysgrifenedig yw, Tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir.
32Eithr wedi fy adgyfodi, mi a af och blaen chwi i Galilaia.
33A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegyd di, etto ni’m rhwystrir i byth.
34Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai y nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith.
35Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedai yr holl ddisgyblion.
36Yna y daeth yr Iesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf draw i weddïo.
37Ac efe a gymmerth Pedr, a dau fab Zebedëus, ac a ddechreuodd dristâu ac ymofidio.
38Yna efe a ddywedai wrthynt, Y mae fy enaid yn drist iawn hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyd â mi.
39Ac wedi iddo fyned ychydig ym mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os gellir, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthyf: etto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
40Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni ellych chwi wylied un awr gyd â mi?
41Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan.
42Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, oni’s gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthyf, heb i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di.
43Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhâu.
44Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.
45Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ai cyscu o hyd, a gorphwys ydych? wele, y mae’r awr wedi nesâu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylaw pechaduriaid.
46Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47Ac efe etto yn llefaru, wele, Iudas un o’r deuddeg, a ddaeth, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl.
48A’r hwn a’i bradychodd ef a roisai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.
49Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athraw; ac a’i cusanodd ef.
50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y roisant ddwylaw ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef.
51Ac wele, un o’r rhai oedd gyd a’r Iesu, a estynodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.
53A ydwyt ti yn tybied na’s gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy nâ deuddeg lleng o angylion?
54Pa fodd ynte y cyflawnid yr ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod?
55Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch.
56A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythyrau y prophwydi. Yna’r holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoisant.
57A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Kaiaphas yr arch-offeiriad, lle’r oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghŷd.
58A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr arch-offeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd â’r rhingyllion, i weled y diwedd.
59A’r arch-offeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gynghor, a geisiasant gau-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;
60Ac ni’s cawsant: ie, er dyfod yno gau-dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst,
61Ac a ddywedasant, Hwn a ddywedai, Mi a allaf ddinystrio teml Duw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod.
62A chyfododd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn!
63Ond yr Iesu a dawodd. A’r arch-offeiriad gan atteb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy y Duw byw, ddywedyd o honot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.
64Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ol hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheu-law y gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef.
65Yna y rhwygodd yr arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid i ni mwy wrth dystion? wele, yr awron y clywsoch ei gabledd ef.
66Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.
67Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i tarawsant ef â gwiail,
68Gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Crist, Pwy yw yr hwn a’th darawodd?
69A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig atto, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gyd ag Iesu y Galilaiad.
70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Ni’s gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyd â’r Iesu o Nazaret.
72A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn.
73Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un o honynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
74Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.
75A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.