1A HWY a ddaethant i’r tu hwnt i’r llyn, i wlad y Gadareniaid.
2Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r bâd, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau ddyn ag yspryd aflan ynddo,
3Yr hwn oedd â’i drigfan ym mhlith y beddau; ac ni allai neb, ïe, â chadwynau, ei rwymo ef:
4O herwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac a chadwynau, a darnio o hono y cadwynau, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.
5Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ym mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
6Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd ac a’i cyfarchodd ef.
7A chan waeddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Fab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
8(Canys dywedasai wrtho, Yspryd aflan, dos allan o’r dyn)
9Ac efe a ofynodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a attebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer o honom.
10Ac efe a fawr-ymbiliodd ag ef, na yrraï efe hwynt allan o’r wlad.
11Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.
12A’r holl gythreuliaid a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
13Ac yn y man y caniattaodd yr Iesu iddynt. A’r ysprydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn (ac ynghŷlch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y llyn.
14A’r rhai a borthent y moch a ffoisant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
15A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.
16A’r rhai a welsant, a fynegasant iddynt pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch.
17A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt.
18Ac efe yn myned i’r bâd, yr hwn y buasai y cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gyd ag ef.
19Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhâu wrthyt.
20Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa fawr bethau a wnaethai yr Iesu iddo. A phawb a ryfeddasant.
21Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn bâd i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y llyn.
22Ac wele, un o bennaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Iairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef.
23Ac efe a fawr-ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar ddarfod: attolwg i ti ddyfod a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachâer hi; a byw fydd.
24A’r Iesu a aeth gyd ag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i gwasgasant ef.
25A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,
26Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymmaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waeth-waeth,
27Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ol, ac a gyffyrddodd â’i wisg ef.
28Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i wisg ef, iach fyddaf.
29Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorph ddarfod ei hiachâu o’r pla.
30Ac yn y fan, yr Iesu, gan wybod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan a hono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m gwisg?
31A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd?
32Ac yntau a edrychodd o amgylch i weled yr hon a wnaethai hyn.
33Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
34Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla.
35Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth etto yr aflonyddi yr Athraw?
36A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
37Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iakob, ac Ioan brawd Iakob.
38Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu y cynnwrf, a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.
39Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw yr eneth, eithr cysgu y mae.
40A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gyd ag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.
41Ac wedi ymaflyd yn llaw yr eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth cyfod.
42Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys yr oedd hi yn ddeuddeng mlwydd oed. A synnu a wnaeth arnynt a syndod mawr.
43Ac efe a orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwytta.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.