1CANYS y lywodraeth nefoedd sydd debyg i ben-teulu, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwŷr i’w winllan.
2Ac wedi cyttuno â’r gweithwyr am geiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy i’w winllan.
3Ac efe a aeth allan ynghŷlch y drydidd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;
4Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a’i rhoddaf i chwi.
5A hwy a aethant y maith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghŷlch y chweched ar nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
6Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hŷd y dydd yn segur?
7Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i’r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.
8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwŷr a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
9A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghŷlch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.
10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.
11Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn y pen teulu.
12Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom, bwys y dydd a’r gwres.
13Yntau a attebodd, ac a ddywedodd wrth un o honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid am geiniog y cyttunaist â mi?
14Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithau.
15Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf â’r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
16Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17Ac a’r Iesu yn myned i fynu i Ierusalem, efe a gymmerth y deuddeg disgybl o r neilldu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,
18Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem, a Mab y dyn a draddodir i’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a hwy a’i barnant ef i farwolaeth,
19Ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd, i’w watwar, ac i’w fflangellu, ac i’w groeshoelio: a’r trydydd dydd efe a adgyfyd.
20Yna y daeth mam meibion Zebedëus atto gyd â’i meibion, gan ei gyfarch ef, a deisyf rhyw beth ganddo.
21Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o’m dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a’r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.
22A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o’r cwppan yr ydwyf fi ar yfed o hono, a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dïau yr yfwch o’m cwppan, ac y’ch bedyddir â’r bedydd y’m bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi: ond i’r sawl y darparwyd gan fy Nhad.
24A phan glybu y deg hyn, hwy a sorrasant wrth y ddau frodyr.
25A’r Iesu a’u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy.
26Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;
27A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:
28Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes er rhyddid i lawer.
29Ac a hwy yn myned allan o Iericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef.
30Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrthym.
31A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrthym.
32A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o honof i chwi?
33Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34A’r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â’u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a’i canlynasant ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.