1YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch rhag surdoes y Pharisai, yr hwn yw rhagrith.
2Canys nid oes dim cuddiedig, a’r na’s datguddir; na dirgel, a’r ni’s gwybyddir.
3Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
4Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur.
5Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i’r floeddgar dyffryn; ïe, meddaf i chwi, ofnwch hwnnw.
6Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling, ac nid oes un o honynt mewn anghof ger bron Duw?
7Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well nâ llawer o adar y tô.
8Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i ger bron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau ger bron anghylion Duw.
9A’r hwn a’m gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron angylion Duw.
10A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir,
11A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch:
12Canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.
14Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr, neu yn rhannwr arnoch chwi?
15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod; canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda.
17Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffwythau iddo?
18Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ydtai, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m dâ.
19A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt ddâ lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorphwys, bwytta, ŷf, bydd lawen.
20Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barattoaist?
21Felly y mae yr hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.
22Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch; nac am eich corph, beth a wisgoch.
23Y mae y bywyd yn fwy nâ’r ymborth, a’r corph yn fwy nâ’r dillad.
24Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau, nac yn medi; i’r rhai nid oes gell, nac ydtŷ; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt; O ba faint mwy yr ydych chwi yn well nâ’r adar?
25A phwy o honoch, gan gymmeryd gofal, a ddichon ychwanegu un cufydd at ei faintioli?
26Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?
27Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu; ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn.
28Ac os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y foru a deflir i’r tân; pa faint mwy y dillada efe chwi, O rai o ychydig ffydd?
29Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch aflonydd.
30Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau y pethau hyn.
31Yn hytrach ceisiwch breniniaeth Duw, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn ychwaneg.
32Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y freniniaeth.
33Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf.
34Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.
35Bydded eich lwynau wedi eu hamwregysu, a’ch canhwyllau wedi eu goleu:
36A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.
37Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir meddaf i chwi, Efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw ac a wasanaetha arnynt hwy.
38Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.
39A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gwr y tŷ pa awr y deuai y lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
40A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.
41A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddammeg hon, ai wrth bawb hefyd?
42A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruchwyliwr ffyddlawn, a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd?
43Gwŷn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly.
44Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl a’r y sydd eiddo.
45Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed, a meddwi:
46Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â’r anffyddloniaid.
47A’r gwas hwnnw yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarattôdd, ac ni wnaeth yn ol ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod.
48Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynir ganddo; a chyd â’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynant ganddo.
49Mi a ddaethum i fwrw tân ar y ddaear; a pheth a fynwyf y cynneuir ef eisoes?
50Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef, ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener!
51Ydych chwi yn tybied y daethum i i’w roddi heddwch ar y ddaear? nag ê, meddaf i chwi: ond yn hytrach ymrafael.
52Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri,
53Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad; y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
54Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.
55A phan clywoch y deheu-wynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd.
56O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynebpryd y ddaear a’r wybr: ond pa fodd nad ydych yn deall yr arnser hwn?
57A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?
58Canys tra byddech yn myned gyd â’th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy oreu ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y rhingyll, ac i’r rhingyll dy daflu yngharchar,
59Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ai di oddi yno, hyd i’th ymadel, ïe, yr hatling ddiweddaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.