1A’R Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau y deml.
2A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddattodir.
3Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewŷdd, y disgyblion a ddaethant atto o’r neilldu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd yr oes?
4A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo.
5Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
6A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, ac am hanes ryfeloedd: gwelwch na chyffrôer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw y diwedd etto.
7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a breniniaeth yn erbyn breniniaeth: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfaau mewn mannau.
8A hyn oll yw dechreuad gofidiau.
9Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymmu, ac a’ch lladdant: a chwi a gasêir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
10Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant eu gilydd, ac y casânt eu gilydd.
11Ac amryw gau-brophwydi a godant, ac a dwyllant lawer.
12Ac o herwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14A’r newydd da hyn am y freniniaeth a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.
15Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried:)
16Yna y rhai a fyddant yn Iudaia, ffoant i’r mynyddoedd.
17Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgyned i gymmeryd dim allan o’i dŷ:
18A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol i gymmeryd ei ddillad.
19A gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.
20Eithr gweddïwch na byddo eich ffoëdigaeth yn y gauaf, nac ar y dydd sabbath:
21Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechreu’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd byth.
22Ac oni bai fyrhâu y dyddiau hynny, ni byddai pob cnawd yn gadwedig: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrhêir y dyddiau hynny.
23Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma Grist, neu yna; na chredwch.
24Canys cyfyd gau-Gristiau, a gau-brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion, a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe gallent, ie, yr etholedigion.
25Wele, rhag-ddywedais i chwi.
26Am hynny os dywedant wrthych, Wele y mae efe yn y lle anghyfanedd; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.
27Oblegyd fel y daw y llewyrch o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
28Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno’r ymgasgl yr eryrod.
29Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r ser a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaear, a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymmylau’r nef gyd â nerth a gogoniant mawr.
31Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain udgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghŷd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
32Ond dysgwch ddammeg oddi wrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch fod Mab y dyn yn agos, wrth y drysau.
34Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.
35Nef a daear a ant heibio, eithr fy ngeiriau i nid ant heibio.
36Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni’s gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.
37Ac fel yr oedd dyddiau Noë, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
38Oblegyd fel yr oeddynt yn y dyddiau ym mlaen y diluw yn bwytta ac yn yfed, yn prïodi ac yn rhoi i brïodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch,
39Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y diluw, a’u cymmeryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
40Yna y bydd dau yn y maes; y naill a gymmerir, a’r llall a adewir.
41Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymmerir, a’r llall a adewir.
42Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
43A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gwr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44Am hynny byddwch chwithiau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osodai ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn prŷd?
46Gwŷn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei Arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47Yn wir meddaf i chwi, Y gesyd efe ef ar ei holl ddâ.
48Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy Arglwydd yn oedi dyfod;
49A dechreu curo ei gyd-weision, a bwytta ac yfed gyd â’r meddwon;
50Daw arglwydd y gwas hwnnw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl am dano, ac mewn awr ni’s gwyr.
51Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â’r rhagrithwŷr: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.