1AC yr oedd un yn glaf, sef Lazarus o Bethania, o dref Maria, a’i chwaer Martha.
2(A Maria ydoedd yr hon a enneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef a’i gwallt, a’i brawd Lazarus oedd yn glaf)
3Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant atto ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff gennyt yn glaf.
4A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.
5A’r oedd gan yr Iesu gariad am Martha, a’i chwaer, a Lazarus.
6Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
7Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Iudaia drachefn.
8Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Athraw, yr oedd yr Iudaion yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
9Yr Iesu a attebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn:
10Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo.
11Hyn a lefarodd: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno; on yr wyf fi yn myned i’w ddihuno ef.
12Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach.
13Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hûn cwsg yr oedd efe yn dywedyd.
14Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lazarus;
15Ac y mae yn llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi (fel y credoch:) awn atto ef.
16Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Gefell, wrth ei gyd-ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gyd ag ef.
17Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18A Bethania oedd yn agos i Ierusalem, ynghylch dwy filldir oddi wrthi:
19A llawer o’r Iudaion a ddaethent at Martha a Maria, i’w cysuro hwy am eu brawd.
20Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn clyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Maria a eisteddodd yn y tŷ.
21Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw.
22Eithr mi a wn hefyd yr awr hon, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.
23Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Dy frawd a adgyfodir drachefn.
24Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf.
25Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw:
26A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn?
27Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw y Christ, Mab Duw, yr hwn sydd gwedi dyfod i’r byd.
28Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Maria, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athraw, ac y mae yn galw am danat.
29Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth atto ef.
30(A’r Iesu ni ddaethai etto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.)
31Yna yr Iudaion y rhai oedd gyd â hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Maria yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddwedyd, Y mae hi yn myned at y bedd, i wylo yno.
32A Maria, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasei fy mrawd farw.
33Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iudaion y rhai a ddaethynt gyd â hi, yn wylo, a riddfanodd yn yr yspryd, ac a gynhyrfwyd;
34Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyred a gwel.
35Yr Iesu a wylodd.
36Am hynny y dywedodd yr Iudaion, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.
37Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasai, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?
38Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo ei hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.
39Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.
40Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?
41Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fynu, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn dïolch i ti am i ti wrandaw arnaf.
42Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrandaw bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch, y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i.
43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel i Lazarus, dyred allan.
44A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylaw mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadêwch iddo fyned ymaith.
45Yna llawer o’r Iudaion, y rhai a ddaethent at Maria, ac a welsant y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo.
46Eithr rhai o honynt a aethant ymaith at y Pharisai, ac a ddywedasant wrthynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47Yna yr arch-offeiriaid a’r Pharisai a gasglasant gynghor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
48Os gadâwn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw y Rhufeiniaid ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl.
49A rhyw un o honynt, Kaiaphas, yr hwn oedd arch-offeiriaid y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim,
50Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.
51Hyn ni ddywedodd efe o hono ei hun: eithr, ac efe yn arch-offeiriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddai yr Iesu farw dros y genedl;
52Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghŷd yn un blant Duw, y rhai a wasgarasid.
53Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgynghorasant, fel y lladdent ef.
54Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysg yr Iudaion; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim, ac a arhosodd yno gyd â’i ddisgyblion.
55A phasg yr Iudaion oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fynu i Ierusalem, o flaen y pasg, i’w glanhâu eu hunain.
56Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r wledd?
57A’r arch-offeiriaid a’r Pharisai a roisant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.