Matthaw 21 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XXI.Crist yn marchogaeth ar asen i Ierusalem; yn gyrru’r prynwŷr a’r gwerthwŷr o’r deml; yn melldithio’r ffigysbren; yn gostegu’r offeiriaid a’r henuriaid, ac yn eu ceryddu trwy gyffelybrwydd y ddau fab, a’r llafurwŷr a laddasant y rhai a anfonwyd attynt.

1A PHAN ddaethant yn gyfagos i Ierusalem, a’u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr Olewŷdd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,

2Gan ddywdedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attaf fi.

3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch. Y mae yn rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt.

4A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn draethwyd trwy y prophwyd, yn dywedyd,

5Hyspyswch i ferch Sïon, Wele, dy Frenin yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar asyn, ac ar ebol llwdn asyn.

6Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Iesu iddynt.

7A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

8A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u tanasant ar hŷd y ffordd.

9A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchaf.

10Ac wedi ei ddyfod ef i Ierusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?

11A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y prophwyd y sydd o Nazaret yn Galilaia.

12A’r Iesu a aeth i mewn i deml Duw, ac a fwrodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fryddau yr echwynwŷr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommennod.

13Ac efe ddywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.

14A daeth y deillion a’r cloffion atto yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt.

15A phan welodd yr arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,

16Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?

17Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Bethania, ac a lettyodd yno.

18A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.

19A phan welôdd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth atto, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig; ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.

20A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigysbren!

21A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb ammeu, ni wnewch yn unig hyn a wnaethum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd.

22A pha beth bynnag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.

23Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?

24A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25¶ Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny na’s credasoch ef?

26Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan megis prophwyd.

27A hwy a attebasant i’r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28¶ Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan.

29Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.

30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth.

31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r putteiniaid i mewn i lywodraeth Duw o’ch blaen chwi.

32Canys daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef: ond y publicanod a’r putteiniaid a’i credasant ef. Chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi wasg-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref.

34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwŷr, i dderbyn ei ffrwythau hi.

35A’r llafurwŷr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.

36Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, uwch na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.

37Ac yn ddiweddaf oll, efe a anfonodd attynt ei fab ei hun; gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab.

38A phan welodd y llafurwŷr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a meddianwn ei etifeddiaeth.

39Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant.

40Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwŷr hynny?

41Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwŷr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.

42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, a wnaethpwyd yn ben i’r gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!

43Am hynny meddaf i chwi, y dygir breniniaeth Duw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.

44A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir ganddo: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.

45A phan glybu yr arch-offeiriaid a’r Pharisai ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai.

46Ac a hwy yn ceisio ei ddala, a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymmeryd ef fel prophwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help