Matthaw 18 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XVIII.Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed; yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag at ein brodyr, pan wnelont i’n herbyn; yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddammeg y brenin a gymmerai gyfrif gan ei weision.

1YN yr amser hynny daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ofyn, Pwy sydd fwyaf yn y lywodraeth nefoedd?

2A’r Iesu a alwodd atto blentyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt;

3Ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Oddi eithr eich cyfnewid chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi i mewn i’r lywodraeth nefoedd.

4Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn yr lywodraeth nefoedd.

5A phwy bynnag a dderbynio gyfryw yn fy enw i, a’m derbyn i.

6A plwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin assyn

am ei ŵyddf, a’i foddi yn eigion y môr.

7Gwae’r byd oblegyd rhwystrau: canys anghenrhaid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn hwnnw trwy yr hwn y daw y rhwystr.

8Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragywyddol.

9Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn un llygeidog fyned i mewn i’r bywyd, nag â dau lygad gennyt dy daflu i floeddgar dyffryn y tân.

10Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

11Canys daeth Mab y dyn i gadw yr hyn a gollasid.

12Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar ddisberod; oni âd efe yr amyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddisberod?

13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhâu am honno mwy nag am yr amyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.

14Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.

15Ac os pecha dy frawd i’th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a ynnillaist dy frawd.

16Ac os efe ni wrendy, cymmer gyd â thi etto un neu ddau, fel yn ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.

17Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i’r gynlleidfa; ac os efe ni wrendy ar yr gynlleidfa chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a’r publican.

18Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwyrno yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhâu yn y nef.

19Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear, am beth bynnag a’r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21Yna y daeth Pedr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith?

22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith: ond, Hyd ddengwaith a thriugain seithwaith.

23Am hynny y cyffelybir lywodraeth nefoedd i ryw frenhin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.

24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd atto un a oedd yn ei ddyled ef o ddengmil o dalentau.

25A chan nad oedd ganddo i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu'r ddyled.

26A’r gwas a syrthiodd i lawr, ac a’i deisyfodd ar ei benliniau, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

27Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y dyled.

28Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd-weision yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a’i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

30Ac ni’s gwnai efe: ond myned a’i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai,

32Yno ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil â mi:

33Ac oni ddylesit tithau drugarhâu wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenwŷr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.

35Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help