Mark 7 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD VII.Y Pharisai yn beio y disgyblion, am fwytta heb ymolchi: yn torri gorchymyn Duw trwy draddodiadau dynion. Christ yn iachâu merch y wraig o Syrophenicia oddi wrth yspryd aflan; ac un oedd fyddar, ac ag attal dywedyd arno.

1YNA yr ymgasglodd atto y Pharisai, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethent o Ierusalem.

2A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylaw cyffredin (hynny ydyw, heb olchi) yn bwytta bwyd, hwy a argyhoeddasant.

3Canys y Pharisai, a’r holl Iuddaion, oni bydd iddynt olchi eu dwylaw yn syber, ni fwyttânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid.

4A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwyttânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant i’w cadw; megis golchi cwppanau, ac ystenau, ac efyddynau, a gweliau.

5Yna y Pharisai a’r ysgrifenyddion a ofynnasant iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwytta eu bwyd â dwylaw heb olchi?

6Ond Efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, ragrithwŷr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i a’u gwefusau, ond eu calon sydd yn mhell oddi wrthyf.

7Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn ddysgeidiaeth orchymynion dynion.

8Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwppanau, a llawer eraill o’r cyffelyb bethau.

9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwŷch yr ydych yn rhoi heibio gorchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.

10Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam, a’r hwn a rho ddrygair i’w dad neu i’w fam lladder ef yn farw.

11Ac meddwch chwithau, “Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Fy rhodd yw y lles y cewch oddi wrthyf fi; difai fydd.”

12Ac nid ydych yn gadael iddo mwyach i wasnaethu ei dad neu ei fam.

13Gan ddirymmu gair Duw a’ch traddodiad, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.

14A chwedi galw atto yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch chwi oll arnaf, a deallwch.

15Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr pethau sydd yn dyfod allan o hono, y rhai hynny ydynt y pethau sydd yn halogi dyn.

16Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

17A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddammeg.

18Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a el i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef;

19Oblegyd nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu yr holl fwydydd?

20Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o galon dyn, hynny sydd yn halogi dyn.

21Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwgfeddyliau, godinebau, putteindra, llofruddiaeth,

22Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwglygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd.

23Yr holl ddrwg bethau hyn ydynt yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.

24Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig.

25Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag yspryd aflan ynddi, son am dano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:

26(A Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl.) A hi a attolygodd iddo fwrw y cythraul allan o’i merch.

27A’r Iesu a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i’r plant, gael eu digoni: canys nid cymmwys yw cymmeryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon.

28Hithau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac etto y mae y cenawon dan y bwrdd yn bwytta o friwsion y plant.

29Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith; aeth y cythraul allan o’th ferch.

30Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely.

31Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd lyn Galilaia, trwy ganol terfynau Decapolis.

32A hwy a ddygasant atto un byddar, ag attal dywedyd arno; ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno.

33Ac wedi iddo ei gymmeryd o’r neilldu allan o’r dyrfa, efe a estynodd ei fysedd yn ei glustia ef, ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef;

34A chan edrych tu a’r nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, Ymagor.

35Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd; ac efe a lafarodd yn eglur.

36Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb; ond pwy fwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.

37A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddair glywed, ac i’r mudion lafaru.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help