Matthaw 19 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XIX.Crist yn iachâu y cleifion; yn atteb y Pharisai am ysgariaeth: yn derbyn plant bychain: yn dysgu i’r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol: yn dywedyd i’w ddisgyblion mor anhawdd ydyw i’r goludog fyned i mewn i freniniaeth Duw; ac yn addaw gwobr i’r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.

1A BU, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilaia, ac a ddaeth i derfynau Iudaia, tu hwnt i’r Iordan:

2A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.

3A daeth y Pharisai atto, gan ei brofu a gofyn, A’i cyfreithlawn i ŵr ollwng ymaith ei wraig am bob achos?

4Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Oni ddarllenasoch i’r hwn a’i gwnaeth o’r dechreu, e’u gwueuthur hwy yn wrryw ac yn fenyw?

5Ac efe a ddywedodd, Oblegyd hyn y gâd dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd.

6O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na wahaned dyn.

7Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith?

8Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ollwng ymaith eich gwragedd; eithr o’r dechreu nid oedd felly.

9Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, onid o achos ei phutteindra, ac a briodo un arall, sydd yn gweneuthur godineb; a yr hwn a briodo yr hon a ollyngwyd ymaith sydd yn gwneuthur godineb.

10A’i ddisgyblion a ddywedasant, Os felly yw cyflwr gwr a’i wraig, nid yw’n dda i briodi.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb sydd yn cadw y gair, on y sawl y rhoddwyd iddynt.

12Canys y mae enuchiaid a aned felly; ac y mae enuchiaid a wnaed gan ddynion; ac y mae enuchiaid a wnaethant eu hunain felly er mwyn y lywodraeth nefoedd. Y neb a ddichon dilyn y geirau yma, dilynied.

13Yna y dygasant atto blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt.

14A’r Iesu ddywedodd, Gadêwch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod attaf fi: canys eiddo y cyfryw rai yw’r lywodraeth nefoedd.

15Ac wedi iddo roddi ei ddwylaw arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athraw da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol?

17Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw y gorchymynion.

18Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth,

19Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymmydog fel ti dy hun.

20Y gwr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuengctid: beth sydd yn eisiau i mi etto?

21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyd sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a dyred, canlyn fi.

22A phan glybu y gwr ieuangc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen dâ lawer.

23Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i’r lywodraeth nefoedd.

24Ac etto meddaf i chwi, Haws yw i rhaff angor fyned trwy grau y nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i lywodraeth Duw.

25A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?

26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyd â dynion ammhosibl yw hyn, ond gyd â Duw pob peth sydd bosibl.

27Yna Pedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i yn yr ad-enedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

29A phob un a’r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y cau cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.

30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help