1BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Kæsar, i gofrestru’r holl fyd.
2(Y cofrestriad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Kyrenius yn rhaglaw ar Syria).
3A phawb a aethant i’w cofrestru, bob un i’w ddinas ei hun.
4A Ioseph hefyd a aeth i fynu o Galilaia, o ddinas Nazaret, i Iudaia, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd)
5I’w gofrestru gyd â Maria, yr hon a ddyweddïasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6A tra yr oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor o honi.
7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y lletty.
8Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd o hyd nos.
9Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd ger llaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: a hwy a ofnasant yn ddirfawr.
10A’r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl.
11Canys ganwyd i chwi heddyw yn ninas Dafydd geidwad, yr hwn yw Christ yr Arglwydd.
12A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch dyn bach wedi ei rwymo, a’i osod yn y preseb.
13Ac yn ddisymmwth yr oedd gyd â’r angel lïaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,
14Gogoniant yn y nefoedd i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion meddwl da.
15A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hyspysodd yr Arglwydd i ni.
16A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Maria a Ioseph, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.
17A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.
18A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasant y bugeiliaid wrthynt.
19Eithr Maria a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.
20A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.
21A phan gyflawnwyd wyth diwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddwŷn ef yn y groth.
22Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ol deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Ierusalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd;
23(Fel yr ysgrifenwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwrryw cyntafanedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd)
24Ac i roddi aberth, yn ol yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colommen.
25Ac wele, yr oedd gwr yn Ierusalem, a’i enw Simeon; a’r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel; a’r Yspryd Glân oedd arno.
26Ac yr oedd wedi ei hyspysu iddo gan yr Yspryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Christ yr Arglwydd.
27Ac efe a ddaeth trwy yr yspryd i’r deml: a phan ddug ei rïeni y dyn bach Iesu, i wneuthur ag ef yn ol defod y gyfraith;
28Yna efe a’i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fedithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29Yr awr hon, Arglwydd Goruchaf, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air:
30Canys fy llygaid a welsant dy iechawdwriaeth,
31Yr hon a baratoaist ger bron yr holl bobloedd;
32Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.
33Ac yr oedd Ioseph a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd am dano ef.
34A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Maria ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;
35(A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf dwylawig) fel y datguddir meddyliau o amrhyw galonnau.
36Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai yn briod saith mlynedd o’i morwyndod;
37Ac a fuasai yn weddw ynghŷlch pedwar ugain a phedair blynedd, yr hon nid ai allan o’r deml, ond oedd yn gwasanaethu Duw mewn unprydiau a gweddïau ddydd a nos.
38Hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Ierusalem.
39Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilaia, i’w dinas eu hun Nazaret.
40A’r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr yspryd yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41A’i rïeni ef a aent i Ierusalem bob blwyddyn ar wledd y Pasg.
42A phan oedd efe yn ddeuddeg mlwydd oed, hwy a aethant i fynu i Ierusalem yn ol defod y wledd.
43Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem; ac ni wyddai Ioseph a’i fam ef.
44Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ym mhlith eu cenedl a’u cydnabod.
45A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gan ei geisio ef.
46Ac ar ol tridiau, hwy ai cawsant ef yn y deml, yn eistedd y’nghanol y dysgedigion, yn gwrandaw arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a’i attebion.
48A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di.
49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghŷlch y pethau a berthyn i’m Tad?
50A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.
51Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazaret, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.
52A’r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb a chorpholaeth, a chariad gyd â Duw a dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.