Ioan 19 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XIX.Fflangellu Christ, a’i goroni â drain, a’i guro. Pilatus yn chwennych ei ollwng ef yn rhŷdd; etto wedi ei orchfygu gan lefain yr Iudaion, yn ei roddi ef i’w groes-hoelio. Bwrw coel-brennau ar ei ddillad ef: yntau yn gorchymyn ei fam i Ioan; ac yn marw. Gwanu ei ystlys ef. Ioseph a Nicodemus yn ei gladdu ef.

1YNA gan hynny y cymmerodd Pilatus yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef.

2A’r milwŷr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg o borphor am dano;

3Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iudaion; ac a roisant iddo gernodiau.

4Pilatus gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai.

5Yna y daeth yr Iesu allan, yn dwyn y goron ddrain, a’r wisg borphor. A Philatus a ddywedodd wrthynt, Wele y dyn.

6A’r arch-offeiriaid a’r rhingyllion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef. Pilatus a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroes-hoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo.

7Yr Iudaion a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.

8A phan glybu Pilatus yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy;

9Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu. O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu atteb iddo.

10Yna Pilatus a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhŷdd?

11Yr Iesu a attebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.

12O hynny allan y ceisiodd Pilatus ei ollwng ef yn rhŷdd: ond yr Iudaion a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhŷdd, nid wyt ti yn garedig i Kæsar. Pwy bynnag a wnelo ei hun yn frenin, sydd yn dywedyd yn erbyn Kæsar.

13Yna Pilatus, pan glybu yr ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orsedd-faingc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.

14A darpar wledd y pasg oedd hi, ac ynghŷlch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iudaion, Wele eich Brenin.

15Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilatus a ddywedodd wrthynt, A groes-hoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r arch-offeiriaid a attebasant, Nid oes i ni frenin ond Kæsar.

16Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groes-hoelio. A hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith.

17Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle y ben-glog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha:

18Lle y croes-hoeliasant ef, a dau eraill gyd ag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.

19A Philatus a ysgrifenodd ditl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NAZARET, BRENIN YR IUDAION.

20Y titl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iudaion: oblegyd yn agos i’r ddinas oedd y fan lle y croes-hoeliwyd yr Iesu, ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg, Groëg, a Lladin.

21Yna arch-offeiriaid yr Iudaion a ddywedasant wrth Pilatus, Na ysgrifena, Brenin yr Iudaion; eithr dywedyd o hono ef, Brenin yr Iudaion ydwyf fi.

22Pilatus a attebodd, Yr hyn a ysgrifenais a ysgrifenais.

23Yna’r milŵyr, wedi iddynt groes-hoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad ef (ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran) a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddi-wnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.

24Hwythau a ddywedasant wrth eu gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythyr sydd yn dywedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goel-brennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn.

25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Maria gwraig Cleophas, a Maria Magdalen.

26Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll ger llaw, a ddywedodd wrth ei fam, Wraig, wele dy fab.

27Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymmerodd y disgybl hi i’w gartref.

28Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orphen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.

29Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghŷlch gorsen, ac a’i dodasant wrth ei enau ef.

30Yna pan gymmerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphenwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd.

31Yr Iudaion gan hynny, fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y sabbath, o herwydd ei bod yn ddarpar-wledd (canys mawr oedd y dydd sabbath hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilatus, gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.

32Yna y milwŷr a ddaethant, ac a dorrasant esgeiriau y cyntaf, a’r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef.

33Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorrasant ei esgeiriau ef.

34Ond un o’r milwŷr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon; ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.

35A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi.

36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, Ni thorrir asgwrn o hono.

37A thrachefn, ysgrythyr arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.

38Ac ar ol hyn, Ioseph o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iudaion) a ddeisyfiodd ar Pilatus, gael tynnu i lawr gorph yr Iesu. A Philatus a ganiattaodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorph yr Iesu.

39A daeth Nicodemus hefyd (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hŷd nos) ac a ddug fyrr ac aloës ynghymmysg, tu a chan-pwys.

40Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llïeiniau, gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iudaion ar gladdu.

41Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn eriôed.

42Ac yno, rhag nesed oedd darpar wledd yr Iudaion, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help