1WEDI hynny yr oedd gwledd yr Iudaion; a’r Iesu a aeth i fynu i Ierusalem.
2Ac y mae yn Ierusalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ag iddo bum porth:
3Yn y rhai y gorweddai llïaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr.
4Canys yr oedd angel ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu y dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ol cynhyrfu y dwfr, a ai yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno.
5Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf ddwy flynedd a deugain.
6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach?
7Y claf a attebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra byddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i.
8Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod, cymmer dy wely i fynu, a rhodia.
9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A’r diwrnod hwnnw oedd y sabbath.
10Am hynny yr Iudaion a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y sabbath yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely.
11Efe a attebodd iddynt, Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach, a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia.
12Yna hwy a ofynnasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia?
13A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe. Canys yr Iesu a giliasai o’r dyrfa oedd yn y fan honno.
14Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.
15Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i’r Iudaion, mai yr Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach.
16Ac am hynny yr Iudaion a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegyd iddo wneuthur y pethau hyn ar y sabbath.
17Ond yr Iesu a’u hattebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio.
18Am hyn gan hynny yr Iudaion a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegyd nid yn unig iddo dorri y sabbath, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn debyg i Dduw.
19Yna yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur hynny hefyd y mae y Mab yr un modd yn ei wneuthur.
20Canys y Tad sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy nâ’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
21Oblegyd megis y mae y Tad yn cyfodi y rhai meirw, ac yn eu bywhâu; felly hefyd y mae y Mab yn bwyhâu y rhai a fynno.
22Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab:
23Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad yr hwn a’i hanfonodd ef.
24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrandaw fy rhewsm i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw.
26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun;
27Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, o herwydd ei fod yn Fab dyn.
28Na ryfeddwch am hyn: canys y mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef:
29A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i adgyfodiad bywyd: ond y rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn.
30Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i.
31Os ydwyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.
32Arall sydd yn tystiolaethu am danaf fi; ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu am danaf fi.
33Chwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth, i’r gwirionedd.
34Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.
35Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddych ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.
36Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorphen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tad a’m hanfonodd i.
37A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe a dystiolaethodd am danaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef.
38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu ynddo.
39Chwiliwch yr ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragywyddol: a hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi.
40Ond ni fynnwch chwi ddyfod attaf fi, fel y caffoch fywyd.
41Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion.
42Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
43Myfi a ddaethum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
44Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig?
45Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad; y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46Canys pe credasech chwi Moses, chwi a gredasech finnau: oblegyd ysgrifenodd ef am danaf fi.
47Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifenadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.