Ioan 14 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XIV.Christ yn cysuro ei ddisgyblion; yn proffesu mai efe yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; a’i fod yn un â’r Tad: y bydd eu gweddïau hwy yn ei enw ef yn ffrwythlawn: yn dymuno cariad ac ufudd-dod: yn addaw yr Yspryd Glân y Diddanydd; ac yn gadael ei dangnefedd gyd â hwynt.

1NA thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, ac yr ydych yn credu ynof finnau.

2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i barottôi lle i chwi.

3Ac os myfi a af, ac a barattoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymmeraf chwi attaf fy hun: fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd.

4Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch.

5Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i i ba le yr wyt ti yn myned a pha fodd y gallwn wybod y ffordd?

6Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.

7Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef.

8Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.

9Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb am gwelodd i, a welodd y Tad; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?

10Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.

11Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain.

12Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy nâ’r rhai hyn a wna efe: oblegyd yr wyf fi yn myned at fy Nhad.

13A pha beth bynnag a ofynoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab.

14Os gofynwch yn fy enw i, mi a’i gwnaf.

15Os cerwch fi, cedwch fy ngorchymynion.

16A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyd â chwi yn dragywyddol;

17Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef: o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac efe a fydd ynoch.

18Ni’s gadawaf chwi yn amddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi.

19Etto ennyd bach, a’r byd ni’m gwel mwy: eithr chwi a’m gwelwch; canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.

20Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.

21Yr hwn sydd â’m gorchymynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo.

22Dywedodd Iudas wrtho, (nid yr Iscariot) Arglwydd, pa beth yw yr achos yr wyt ar fedr dy eglurhâu dy hun i ni, ac nid i’r byd?

23Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a nyni â ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef.

24Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tad a’m hanfonodd i.

25Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyd â chwi.

26Eithr y Diddanydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi bob peth, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi.

27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.

28Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf attoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi.

29Ac yr awrhon y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch.

30Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys llywydd y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes i mi.

31Ond i wneud i’r byd wybod fy mod i yn caru y Tad, ac megis y gorchymynodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help