1PAN wybu yr Arglwydd gan hynny glywed o’r Pharisai fod yr Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan,
2(Er na fedyddiasai yr Iesu ei hun, eithr ei ddisgyblion.)
3Efe a adawodd Iudaia, ac a aeth drachefn i Galilaia.
4Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.
5Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, ger llaw y rhandir a roddasai Iakob i’w fab Ioseph.
6Ac yno yr oedd ffynnon Iakob. Yr Iesu gan hynny yn ddiffygiol gan y daith, a eisteddodd ar y ffynnon: ac yr oedd hi ynghylch y chweched awr.
7Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a’r Iesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.
8(Canys ei ddisgyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd)
9Yna y wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa, fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iuddai, yn gofyn i yfed gennyf fi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegyd nid yw yr Iudaion yn ymgyfeillach â’r Samariaid.
10Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthyt, Dyro i mi i yfed; tydi a ofynasit iddo ef, ac efe a roddasai iti ddwfr bywiol.
11Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennyt ti ddim i godi dwfr, a’r ffynon sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennyt ti y dwfr bywiol hwnnw?
12Ai mwy wyt ti nâ’n tad Iakob, yr hwn a roddodd i ni y ffynon, ac efe ei hun a yfodd o hono, a’i feibion, a’i anifeiliaid?
13Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o’r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn:
14Ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddwyf fi iddo, ni sycheda yn dragywydd; eithr y dwfr a roddwyf iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr, yn tarddu i fywyd tragywyddol.
15Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr.
16Iesu a ddywedodd wrthi, Dos, galw dy ŵr, a dyred yma.
17Y wraig a attebodd ac a ddywedodd, Nid oes gennyf ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist, Nid oes gennyf ŵr:
18Canys pump o wŷr a fu i ti; a’r hwn sydd gennyt yr awrhon, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.
19Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, mi a welaf mai prophwyd wyt ti.
20Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Ierusalem y mae y man lle y mae yn rhaid addoli.
21Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, cred fi, y mae yr awr yn dyfod, pryd nad addoloch y Tad, nac yn y mynydd hwn, nac yn Ierusalem.
22Chwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch; ninnau ydym yn addoli y peth a wyddom: canys iachawdwriaeth sydd o’r Iudaion.
23Ond y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae hi, pan addolo y gwir addolwŷr y Tad mewn yspryd a gwirionedd: canys y cyfryw y mae y Tad yn eu ceisio i’w addoli ef.
24Yspryd yw Duw; a rhaid i’r rhai a’i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gwirionedd.
25Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fod y Messïas yn dyfod, yr hwn a elwir Christ: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
26Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
27Ac ar hyn y daeth ei ddisgyblion; a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: etto ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, Paham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28Yna y wraig a adawodd ei dwfrlestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion,
29Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum: onid hwn yw y Christ?
30Yna hwy a aethant allan o’r ddinas, ac a ddaethant atto ef.
31Yn y cyfamser y disgyblion a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, bwytta.
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennyf fi fwyd i’w fwytta yr hwn ni wyddoch chwi am dano.
33Am hynny y disgyblion a ddywedasant wrth eu gilydd, A ddug neb iddo i’w fwytta?
34Iesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorphenu ei waith ef.
35Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae etto bedwar mis, ac yna y daw y cynhauaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meusydd; canys ydynt eisoes yn wynion i’r cynhauaf.
36A’r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragywyddol: fel y byddo i’r hwn sydd yn hau, ac i’r hwn sydd yn medi, lawenychu ynghŷd.
37Canys yn hyn y mae y gair yn wir, Mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.
38Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt.
39A llawer o’r Samariaid o’r ddinas honno a gredasant ynddo, o herwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, Efe a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum.
40Am hynny pan ddaeth y Samariaid atto ef, hwy a attolygasant iddo aros gyd â hwynt; Ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.
41A mwy o lawer a gredasant ynddo ef, oblegyd ei rheswm ef.
42A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni weithian yn credu, oblegyd dy ymadrodd di: canys ni a’i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw y Christ, Iachawdwr y byd.
43Ac ym mhen y ddeu-ddydd efe a aeth ymaith oddi yno, ac a aeth i Galilaia.
44Canys yr Iesu ei hun a dystiolaethodd, nad ydyw prophwyd yn cael anrhydedd yn ei wlad ei hun.
45Yna pan ddaeth efe i Galilaia, y Galilaid a’i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Ierusalem ar y wledd; canys hwythau a ddaethant i’r wledd.
46Felly yr Iesu a ddaeth drachefn i Cana yn Galilaia, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yn Kapernaum.
47Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Iudaia i Galilaia, efe a aeth atto, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachâu ei fab ef: canys yr oedd efe ym mron marw.
48Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
49Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, dyred i wared cyn marw fy machgen.
50Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith: y mae dy fab yn fyw. A’r gwr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.
51Ac fel yr oedd efe yn awr yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.
52Yna efe a ofynodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y crŷd ef.
53Yna y gwybu y tad mai yr awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ.
54A hwn oedd yr ail arwydd a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Iudaia i Galilaia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.