1AC efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion. Gwr a blannodd winllan, ac a ddododd gae o’i hamgylch, ac a gloddiodd ynddi wasg-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref.
2Ac efe a anfonodd was mewn amser at y llafurwŷr, i dderbyn gan y llafurwŷr o ffrwyth y winllan.
3A hwy a’i daliasant ef, ac a’i baeddasant, ac a’i gyrrasant ymaith yn wag-law.
4A thrachefn yr anfonodd efe attynt was arall: a hwnnw y taflasant gerrig atto, ac yr archollasant ei ben, ac a’i gyrrasant ymaith yn ammharchus.
5A thrachefn yr anfonodd ef un arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill; gan faeddu rhai, a lladd y lleill.
6A chanddo etto un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab.
7Ond y llafurwŷr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd; deuwch, lladdwn ef, a’r etifeddiaeth fydd ein eiddo ni.
8A hwy a’i daliasant ef, ac a’i lladdasant, ac a’i bwriasant allan o’r winllan.
9Beth gan hynny a wna Arglwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha y llafurwŷr, ac a rydd y winllan i eraill.
10Oni wyddoch yr ysgrythyr hon? Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, a wnaethpwyd yn ben y gongl.
11Gan yr Arglwydd y gwnaethwyd hyn; a rhyfeddol yw yn ein llygaid ni.
12A hwy a geisiasant ei ddala ef; ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddammeg: a hwy a’i gadawsant ef, ac a aethant ymaith.
13A hwy a anfonasant atto rai o’r Pharisai, ac o’r Herodianiaid, i’w rwydo ef yn ei ymadrodd.
14Hwythau pan ddaethant a ddywedasant wrtho, Athraw, ni a wyddom dy fod di yn eirwir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd: Ai cyfreithlawn rhoi teyrn-ged i Kæsar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?
15Ond efe, gan wybod eu rhagrith, a ddywedodd wrthynt, Paham y profwch fi? dygwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi.
16A hwy a’i dygasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy yw y fath a’r argraph hon? A hwy a ddywedasant wrtho, Kæsar.
17A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Kæsar i Kæsar, a’r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o’i blegyd.
18Daeth y Sadwkai hefyd atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant iddo, gan ddywedyd,
19Athraw, fe ysgrifenodd Moses i ni, O bydd marw brawd neb, a gadael ei wraig, ac heb adael plant, am gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd.
20Yn awr fe fu saith o frodyr: a’r cyntaf a gymmerth wraig; a phan fu farw, ni adawodd had.
21A’r ail a’i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntau had: a’r trydydd yr un modd.
22A hwy a’i cymmerasant hi ill saith, ac ni adawsant had. Yn ddiweddaf o’r cwbl bu farw y wraig hefyd.
23Yn yr adgyfodiad gan hynny, pan adgyfodant, gwraig i ba un o honynt fydd hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig.
24A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Onid ydych yn cyfeiliorni yn hyn, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythyrau, na gallu Duw?
25Canys pan adgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni wrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd.
26Ond am y meirw, yr adgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llafarodd Duw wrtho yn y llwyn, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaak, a Duw Iakob?
27Nid yw efe Dduw y meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni yn fawr.
28Ac un o’r ysgrifenyddion, wedi eu clywed hwynt yn ymresymmmu, a gwybod atteb o hono iddynt yn gymmwys, a ddaeth, ac a ofynodd iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl?
29A’r Iesu a attebodd iddo, Y cyntaf o’r oll orchymynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw sydd un Arglwydd:
30A châr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth. Hwn yw’r gorchymyn cyntaf.
31A’r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy nâ’r rhai hyn.
32A dywedodd yr ysgrifenydd wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist, mai Duw sydd un, ac nad oes arall ond efe:
33A’i garu ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall, ac a’r holl enaid, ac â’r holl nerth, a charu ei gymmydog megis ei hun, sydd fwy nâ'r holl boeth-offrymmau a’r aberthau.
34A’r Iesu pan welodd iddo atteb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth freniniaeth Duw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
35A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, wrth ddysgu yn y deml, Pa fodd y dywed yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd?
36Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy yr Yspryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i’th draed.
37Y mae Dafydd ei hun gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd: ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a’i gwrandawent ef yn gymerus.
38Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwennychant rodio mewn ysginau, a chael cyfarch yn y llysoedd,
39A’r prif-gadeiriau yn y synagogau, a’r prif-eisteddleoedd mewn ciniawau;
40Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, mewn rhith hir-weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth pwysfawr.
41A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn a’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
42A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw y bedwaredd.
43Ac efe a alwodd ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, i’r wraig weddw dlawd hon fwrw i mewn fwy nâ’r holl rhai a fwriasant i’r drysorfa.
44Canys hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl gynhaliaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.