Luk 15 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD XV.Dammeg y ddafad a gollesid; y darn arian; a’r mab afradlon.

1Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesâu atto ef i wrandaw arno.

2A’r Pharisai a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt.

3Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd,

4Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un o honynt, nid yw yn gadael cant onid un yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dŷd hi ar ei ysgwyddau yn llawen.

6A phan ddêl adref, efe a eilw ynghŷd ei gyfeillion a’i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhêwch gyd â mi; canys cefais fy nafad a gollasid.

7Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am gant onid un o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.

8Neu pa wraig, a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni oleu ganwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd oni’s caffo ef?

9Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhêwch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.

10Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.

11Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:

12A’r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r dâ. Ac efe a rannodd iddynt ei foddion.

13Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymmerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei eiddo, gan fyw yn afradlon.

14Ac wedi iddo dreulio y cwbl, y cododd newyn mawr trwy y wlad honno; ac yntau a ddechreuoddd fod mewn eisiau.

15Ac efe a aeth ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a’i hanfonodd ef i’w faesydd i borthi moch.

16Ac efe a chwennychai lenwi ei fol â’r cibau a fwyttai y moch; etto ni roddodd neb iddo o honynt.

17A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael arddigonedd o fara, a minnau yn marw o newyn?

18Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau;

19Ac nid ydwyf mwyach deilwng i’m galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision cyflog.

20Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd.

21A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti.

22A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed.

23A dygwch y llo pasgedig, a heddwch ef; a bwyttâwn, a byddwn lawen.

24Canys fy mab hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.

25Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.

26Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynodd beth oedd hyn.

27Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth: a’th dad a laddodd y llo pasgedig; am iddo ei dderbyn ef yn iach.

28Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef.

29Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynnifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fynn eriôed i mi, i fod yn llawen gyd â’m cyfeillion:

30Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy eiddo gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.

31Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.

32Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegyd dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help