1GWEDI i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, a’i ddisgyblion, dros afon Kedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddisgyblion.
2A Iudas hefyd, yr hwn a’i fradychodd ef, a adwaenai y lle: oblegyd mynych y cyrchasai yr Iesu a’i ddisgyblion yno.
3Iudas gan hynny, wedi iddo gael byddin, a rhingyllion, gan yr arch-offeiriaid a’r Pharisai, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.
4Yr Iesu gan hynny, yn gwybod pob peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio.
5Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazaret. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Iudas, yr hwn a’i fradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyd â hwynt.
6Cyn gynted gan hynny ag y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysg eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.
7Yna efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nazaret.
8Yr Iesu a attebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw. Am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gadêwch i’r rhai’n fyned ymaith:
9Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O’r rhai a roddaist i mi, ni chollais i yr un.
10Simon Pedr gan hynny â chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, ac a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddehau: ac enw y gwas oedd Malchus.
11Yna yr Iesu a ddywedodd wrth Pedr, Dod dy gleddyf yn y wain: y cwppan a roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?
12Yna y fyddin, a’r milwriad, a rhingyllion yr Iudaion, a ddaliasant yr Iesu, ac a’i rhwymasant ef,
13Ac a’i dygasant ef at Annas yn gyntaf (canys efe oedd chwegrwn Kaiaphas, yr hwn oedd arch-offeiriad y flwyddyn honno.)
14A Kaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai i’r Iudaion, mai buddiol oedd farw un dyn dros y bobl.
15Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu, Simon Pedr, a disgybl arall. A’r disgybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr arch-offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â’r Iesu i lys yr arch-offeiriad.
16A Phedr a safodd allan wrth y drws. Yna y disgybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr arch-offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Pedr i mewn.
17Yna y dywedodd y llangces oedd ddrysores wrth Pedr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd yntau, Nac wyf.
18A’r gweision a’r rhingyllion, gwedi gwneuthur tân glo (o herwydd ei bod hi yn oer), oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymno: ac yr oedd Pedr gyd â hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymno.
19A’r arch-offeiriad a ofynodd i’r Iesu am ei ddisgyblion, ac am ei athrawiaeth.
20Yr Iesu a attebodd iddo, Myfi a lefarais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y synagog, ac yn y deml, lle mae yr Iudaion yn ymgynnull bob amser; ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.
21Paham yr wyt ti yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wyddant pa bethau a ddywedais i.
22Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o’r rhingyllion a’r oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn atteb yr arch-offeiriad?
23Yr Iesu a attebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o’r drwg; ac os da, paham yr wyt yn fy nharo i?
24(Ac Annas a’i hanfonasai ef yn rhwym at Kaiaphas yr arch-offeiriad.)
25A Simon Pedr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymno. Hwy a ddywedasant wrtho, Onid wyt tithau hefyd o’i ddisgyblion ef? Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nac wyf.
26Dywedodd un o weision yr arch-offeiriad (câr i’r hwn y torrasai Pedr ei glust), Oni welais i di gyd ag ef yn yr ardd?
27A Pedr a wadodd drachefn; ac yn y man y canodd y ceiliog.
28Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Kaiaphas, i’r dadleudy: a’r bore ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleudy, rhag eu halogi; fel y gallent fwytta’r pasg.
29A Pilatus a aeth allan attynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?
30Hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fod hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem ni ef attat ti.
31Am hynny y dywedodd Pilatus wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich cyfraith chwi. Yna yr Iudaion a ddywedasant wrtho, Nid cyfreithlon i ni ladd neb:
32Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasai efe, gan arwyddocâu o ba angau y byddai farw.
33Yna Pilatus a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iudaion?
34Yr Iesu a attebodd iddo, Ai o honot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti am danaf fi?
35Pilatus a attebodd, Nid wyf fi Iudai. Dy genedl dy hun a’r arch-offeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti?
36Yr Iesu a attebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth i, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iudaion: ond yr awrhon nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma.
37Yna y dywedodd Pilatus wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a attebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y daethum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrandaw fy lleferydd i.
38Pilatus a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan draehefn at yr Iudaion, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim achos ynddo ef.
39Eithr y mae gennych chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un yn rhŷdd ar y pasg: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhŷdd i chwi Frenin yr Iudaion?
40Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Mab y Tad. A Mab y Tad hwnnw oedd leidr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.