Mark 4 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD IV.Dammeg yr hauwr, ai deongliad. Rhaid i ni gyfrannu ein gwybodaeth i eraill. Dammeg yr had yn tyfu yn ddiarwybod, ar gronyn mwstard. Crist yn gostegu y dymmestl ar y llyn.

1AC efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y llyn, a thyrfa fawr a ymgasglodd atto, hyd oni bu iddo fyned i’r bâd, ac eistedd ar y llyn, a’r holl dyrfa oedd wrth y llyn, ar y tir.

2Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth ef,

3Gwrandêwch: Wele, hauwr a aeth allan i hau:

4Ac wrth hau darfu, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant.

5A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.

6A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.

7A pheth a syrthiodd ym mhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddugodd ffrwyth.

8A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddugodd, un ddeg ar hugain, ac un dri-ugain, ac un gant.

9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

10A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyd â’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddammeg.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch lywodraeth Duw: eithr i’r rhai sy allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:

12Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau.

13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?

14Yr hauwr sydd yn hau y gair:

15A’r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle’r hauir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt.

16A’r rhai hyn yr un ffunud yw y rhai a hauir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;

17Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.

18A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym mysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,

19Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.

20A’r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri-ugain, ac un gant.

21Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw canwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren?

22Canys nid oes dim cuddiedig, a’r ni’s amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.

23Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

24Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandêwch.

25Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ond ychydig ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sy ganddo.

26Ac efe a ddywedodd, Felly y mae breniniaeth Duw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear;

27A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino, ac yn tyfu, y modd ni’s gwyr efe.

28Canys y ddaear a ddwg ffrwyth o honi ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.

29A phan ymddangoso y ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhauaf.

30Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem breniniaeth Duw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?

31Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan hauer yn y ddaear, sy leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear,

32Eithr wedi’r hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nâ’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.

33Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrandaw.

34Ond heb ddammeg ni lafarodd wrthynt: ac o’r neilldu efe a eglurodd bob peth i’w ddisgyblion.

35Yna efe a ddywedodd wrthynt, wedi ei hwyrhâu hi, Awn trosodd i’r tu draw.

36Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymmerasant ef fel yr oedd yn y bâd: ac yr oedd hefyd badau eraill gyd ag ef.

37Ac fe a gyfododd tymmestl fawr o wŷnt, a’r tonnau a daflasant i’r bâd, hyd onid oedd yn llawn.

38Ac yr oedd efe yn y pen ol i’r bâd, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroisant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, ai diofal gennynt ein colli ni?

39Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwŷnt, ac a ddywedodd wrth y dyfroedd, Gostega, distawa. A’r gwŷnt a ostegodd, a bu dawelwch mawr.

40Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwŷnt a’r dyfroedd yn ufuddhâu iddo?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help