Mark 9 - Y Cyfammod Newydd (The 4 Gospels) 1818 by John Jones

PENNOD IX.Gwedd-newidiad yr Iesu. Efe yn dysgu ei ddisgyblion ynghŷlch dyfodiad Elïas: yn bwrw allan yspryd mud a byddar: yn rhag-fynegi ei farwolaeth a’i adgyfodiad; yn annog ei ddisgyblion i ostyngeiddrwydd.

1AC efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fod rhai yn sefyll yma, ni phrofant angau, hyd oni welont freniniaeth Duw wedi dyfod mewn nerth.

2Ac wedi chwe diwrnod, y cymmerth yr Iesu Pedr, ac Iakob ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd uchel, o’r neilldu: ac efe a wedd-newidiwyd yn eu gŵydd hwynt.

3A’i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira; y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu.

4Ac fe ymddangosodd iddynt Elïas, gyd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu.

5A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Athraw, da yw i ni fod yma: gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elïas.

6Canys ni’s gwyddai beth yr oedd yn ei ddywedyd: oblegid yr oeddynt wedi dychrynu.

7A daeth cwmmwl yn cysgodi drostynt; a llef a ddaeth allan o’r cwmmwl, yn ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab; gwrandêwch ef.

8Ac yn ddisymmwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Iesu yn unig gyd â hwynt.

9A phan oeddynt yn dyfod i wared o’r mynydd, efe a orchymynodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfodai Mab y dyn o feirw.

10A hwy a gadwasant y gair gyd â hwynt eu hunain, gan gyd-ymholi beth yw yr adgyfodi o feirw.

11A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion, fod yn rhaid i Elïas ddyfod yn gyntaf?

12Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elïas yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a edfryd bob peth; a’r modd yr ysgrifenwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.

13Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Elïas yn ddïau, a gwneuthur o honynt iddo yr hyn a fynnasant, fel yr ysgrifenwyd am dano.

14A phan ddaeth efe at ei ddisgyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a’r ysgrifenyddion yn cydymholi â hwynt.

15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto, a’i cyfarchasant ef.

16Ac efe a ofynodd i’r ysgrifenyddion, Pa gyd-ymholi yr ydych a hwynt?

17Ac un o’r dyrfa a attebodd ac a ddywedodd, Athraw, mi a ddygais fy mab attat, ag yspryd mud ynddo:

18A pha le bynnag y cymmero ef, efe a’i rhwyga; ac yntau a fwrw ewŷn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae yn dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac ni’s gallasent.

19Ac efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth angrhedadwy, pa hŷd y byddaf gyd â chwi? pa hŷd y goddefaf chwi? dygwch ef attaf fi.

20A hwy a’i dygasant ef atto. A phan welodd ef, yn y man yr yspryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewŷn.

21A gofynodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn blentyn.

22A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym.

23A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo.

24Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymmorth fy anghrediniaeth i.

25A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cyd-redeg atto, efe a geryddodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Dyred allan o hono, ac na ddos mwy iddo ef.

26Ac wedi i’r yspryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27A’r Iesu a’i cymmerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a safodd i fynu.

28Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddisgyblion a ofynasant iddo o’r neilldu, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

29Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac unpryd.

30Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilaia: ac ni fynnai efe i neb wybod.

31Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylaw dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr adgyfodai y trydydd dydd.

32Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac yr oeddynt yn ofni gofyn iddo,

33Ac efe a ddaeth i Kapernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynodd iddynt, Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ffordd?

34Ond hwy a dawsant â son: canys ymddadleuasent â’u gilydd ar y ffordd, pwy a fyddai fwyaf.

35Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o’r cwbl, a gweinidog i bawb.

36Ac efe a gymmerth blentyn, ac a’i gosododd ef yn eu canol hwynt: ac wedi iddo ei gymmeryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37Pwy bynnag a dderbynio un o’r cyfryw blant yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a’m danfonodd i.

38Ac Ioan a’i hattebodd ef, gan ddywedyd, Athraw, ni a welsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni; ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dilyn ni.

39A’r Iesu a ddywedodd, Na waharddwch iddo; canys nid oes neb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi drygair i mi.

40Canys y neb nid yw i’n herbyn, sydd o’n plaid ni.

41Canys pwy bynnag a roddo i chwi i’w yfed gwppanaid o ddwfr yn fy enw i, am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.

42A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn sydd yn credu ynof fi, gwell yw iddo gael maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.

43Ac os dy law a’th rwystra, tor hi ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus, nag â dwy law gennyt fyned i’r floeddgar dyffryn, i’r tân anniffoddadwy:

44Lle nid yw eu pryf hwy yn marw, na’r tân yn diffodd.

45Ac os dy droed â’th rwystra, tor ef ymaith: gwell yw iti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, nag â dau droed gennyt dy daflu i’r floeddgar deiffryn, i’r tân anniffoddadwy:

46Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na’r tân yn diffodd.

47Ac os dy lygad â’th rwystra, bwrw ef ymaith: gwell yw i ti fyned i mewn i freniniaeth Duw yn un-llygeidiog, nag â dau lygad gennyt dy daflu i dân i’r floeddgar dyffryn:

48Lle nid yw eu pryf hwy yn marw, na’r tân yn diffodd.

49Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen.

50Da yw yr halen: ond os bydd yr halen yn ddihâllt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon â’ch gilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help