1YN yr un amser clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu.
2Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai y’ngharchar oblegyd Herodias, gwraig Philip ei frawd ef.
4Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlawn i ti ei chael hi.
5Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymmerent ef megis prophwyd.
6Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu fron, ac a ryngodd fodd i Herod.
7O ba herwydd efe a addawodd trwy lw roddi iddi beth bynnag a ofynai.
8A hithau, wedi ei rhag-ddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.
9A’r brenhin a fu drist ganddo: eithr o herwydd y llw, a’r rhai a orweddasant gyd ag ef i fwyta, efe a orchymynodd ei roi.
10Ac efe a anfonodd ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11A dycpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llangces; a hi a’i dug ef i’w mam.
12A’i ddisgyblion ef a ddaethant ac a gymmerasant ei gorph, ac a’i claddasant: ac a aethant ac a fynegasant i’r Iesu.
13A phan glybu yr Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn bâd i anghyfanneddle o’r naill du: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd.
14A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, a dosturiodd wrthynt, ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt i’w fwytta.
17A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn.
18Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymmeryd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fynu tu a’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
20A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briw-fwyd oedd y’ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21A’r rhai a fwyttasent oeddent ynghylch pum-mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.
22Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i gymmerid bâd, ac i fyned i’r lan arall o’i flaen ef, tra byddai efe yn gollwng ymaith y torfeydd.
23Ac wedi iddo ollwng ymaith y torfeydd, efe a esgynodd i’r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhâu hi, yr oedd efe yno yn unig.
24A’r bâd oedd yn awr yn nghanol y llyn, yn drallodus gan donnau: canys y gwŷnt oedd wrthwynebus.
25Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y llyn.
26A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y llyn, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw, A hwy a waeddasant rhag ofn.
27Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.
28A Phedr a’i hattebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod attat ar y dyfroedd.
29Ac efe a ddywedodd, Dyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r bâd efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.
30Ond pan welodd efe y gwŷnt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
31Ac yn y man yr estynodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?
32A phan aethant hwy i mewn i’r bâd, peidiodd y gwŷnt.
33A daeth y rhai oedd yn y bâd, ac a’i cyfarchasant ef, gan ddywedyd, Yn wir ydwyt fab Duw.
34Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.
35A phan adnabu gwŷr y lle hwnnw ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn anhwyl:
36Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynnifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.