1A NESAODD gwledd y bara croyw, yr hon a elwir y pasg.
2A’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegyd yr oedd arnynt ofn y bobl.
3A Satan a aeth i mewn i Iudas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o nifer y deuddeg.
4Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.
5Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.
6Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg.
8Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parattôwch i ni y pasg, fel y bwyttaom.
9A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barottoi o honom?
10Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddelech i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr el efe i mewn.
11A dywedwch wrth wr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r lletty, lle y gallwyf fwytta’r pasg gyd â’m disgyblion?
12Ac efe a ddengys i chwi oruwch ystafell fawr, wedi eu thanu: yno parattôwch.
13A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a barattoisant y pasg.
14A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gyd ag ef.
15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta y pasg hwn gyd â chwi cyn dioddef o honof.
16Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o hono, hyd oni chyflawner yn freniniaeth Duw.
17Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi dïolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith:
18Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwŷdden, hyd oni ddel breniniaeth Duw.
19Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi dïolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.
20Yr un modd y cwppan hefyd wedi bwyta, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw y cyfammod newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.
22Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy yr hwn y bradychir ef.
23Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.
24A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a gae fod yn fwyaf.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
26Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27Canys pa un fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
28A chwi yw y rhai a arhosasoch gyd â mi yn fy mhrofedigaethau.
29Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi freniniaeth, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;
30Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy mreniniaeth, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith:
32Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droër, cadarnhâ dy frodyr.
33Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gydâ thi i garchar, ac i angau.
34Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan eich anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Na fu ddim.
36Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymmered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Fod yn rhaid etto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifenwyd; sef, A chyd â’r anwir y cyfrifwyd ef. Canys y mae diben i’r pethau am danf fi.
38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ol ei arfer, i fynydd yr Olewŷdd; a’i ddisgyblion, a’i canlynasant ef.
40A phan ddaeth i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
41Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,
42Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthyf; er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.
44Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwŷs ef oedd fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
45A phan gododd ef o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
46Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa; a hwn a elwir Iudas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef.
48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?
49A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darâwn ni â chleddyf?
50A rhyw un o honynt a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddehau ef.
51A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch fi, yn hyn; ac a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef.
52A’r Iesu a ddywedodd wrth yr arch-offeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?
53Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylaw i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu y tywyllwch.
54A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ yr arch-offeiriaid. A Phedr a ganlynodd o hirbell.
55Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y nauadd, a chyd-eistedd, Pedr yntau a eisteddodd yn eu plith.
56A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tan, a dal sulw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd ag ef.
57Yntau a’i gwadodd, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.
58Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un o honynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf.
59Ac ar ol megis yspaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilaia yw.
60A Phedr a ddywedodd, Y dyn, ni’s gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog.
61A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith.
62A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
63A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro.
64Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, pwy yw yr hwn a’th darawodd di?
65A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66A phan dyddhaodd, ymgynhullodd henuriaid y bobl, a’r arch offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cynghor.
67Gan ddywedyd, Ai ti yw Christ? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch:
68Ac os gofynaf hefyd i chwi, ni’m hattebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith.
69Ar ol hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.
70A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod.
71Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.