1BU hefyd, a’r bobl yn pwyso atto i wrandaw gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret;
2Ac efe a welai ddau fâd yn gorwedd wrth y llyn: a’r pysgodwŷr a aethent allan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3Ac efe a aeth i mewn i un o’r bâdau, yr hwn oedd eiddo Simon ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y lan: ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r bâd.
4A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.
5A Simon a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Arlwydd, ni ddaliasom ni, ddim, er i ni boeni yr holl nos: etto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.
6Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwy yn mron a rwygodd.
7A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y bâd arall, i ddyfod i’w cynnorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant: a llanwasant y ddau fâd, onid oeddynt hwy ar soddi.
8A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.
9Oblegyd braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gyd ag ef, o herwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy:
10A’r un ffunud daeth ar Iakobus ac Ioan hefyd, meibion Zebedaus, y rhai oedd gyfrannogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.
11Ac wedi iddynt ddwyn y bâdau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
12A bu, fel yr oedd efe yn agos i rhyw ddinas, wele wr yn llawn o’r gwahan-glwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu.
13Yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: Bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a aeth ymaith oddi wrtho.
14Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhâd, fel y gorchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15A’r gair am dano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghŷd i’w wrandaw ef, ac i’w hiachâu ganddo o’u clefydau.
16Eithr yr oedd efe gwedi cilio o’r neilldu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo.
17A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Pharisaia, a doctoriaid y gyfraith yn eistedd, yr oedd yno amrhyw a ddaethent o bob pentref yn Galilaia, a Iudaia, a Ierusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd i’w hiachâu hwynt.
18Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef.
19A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i wared yn y gwely trwy’r pridd-lechau, yn y canol ger bron yr Iesu.
20A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
21A’r ysgrifenyddion a’r Pharisai a ddechreuasant ymresymmu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy ond Duw yn unig a ddichon faddeu pechodau?
22A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymmiadau hwynt, a attebodd ac a ddywedod wrthynt, Pa resymmu yn eich calonnau yr ydych?
23Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?
24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymmer dy wely, a dos i’th dŷ.
25Ac yn y man y cyfododd efe i fynu yn eu gwydd hwynt: ac efe a gymmerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddyw.
27Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
28Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fynu, ac a’i dilynodd ef.
29A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr, o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.
30Eithr eu hysgrifenyddion, a’u Pharisai hwynt a rwgnachodd yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwytta ac yn yfed gyd â phublicanod a phechaduriaid?
31A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion.
32Ni ddaethum i alw y cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
33A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn unprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd y mae y Pharisai; ond yr eiddot ty yn bwytta ac yn yfed?
34Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell brïodas unprydio, tra byddo y prïodas-fab gyd â hwynt?
35Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y prïodas-fab oddi arnynt; ag yna yr unprydiant yn y dyddiau hynny.
36Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd ar hen ddilledyn: os amgen, y mae y newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chyttuna â’r hen.
37Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen grwynau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r crwynau, ac efe a red allan, a’r crwynau a anafir.
38Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn crwyn newyddion; a’r ddau a gedwir.
39Ac nid oes neb wrth yfed gwin hen, a chwennych y newydd: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.