1LLYFR cenhedliad Iesu Christ, fab Dafydd, fab Abraham.
2Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Iacob; a Iacob a genhedlodd Iudas a’i frodyr.
3A Iudas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom; a genhedlodd Aram;
4Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon;
5A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Iesse;
6A Iesse a genhedlodd Ddafydd frenin; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Urïas.
7A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abïa; ac Abïa a genhedlodd Asa;
8Ac Asa a genhedlodd Iosaphat; a Iosaphat a genhedlodd Ioram; a Ioram a genhedlodd Ozïas;
9Ac Ozïas a genhedlodd Ioatham; a Ioatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecïas;
10Ac Ezecïas a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Iosïas;
11A Iosïas a genhedlodd Iechonïas a’i frodyr, yn amser yr alltudiaeth i Babulon:
12A pan dychwelwyd o’r alltudiaeth i Babulon, Iechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel;
13A Zorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Elïacim; ac Elïacim a genhedlodd Azor;
14Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud;
15Ac Elïud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Iacob;
16A Iacob a genhedlodd Ioseph, gŵr Maria, o’r hon y cenhedlwyd Iesu, yr hwn sydd yw alw Christ.
17Am hynny yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Ddafydd oeddynt bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd yr alltudiaeth i Babulon bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o pan ddychwelwyd o’r alltudiaeth i Babulon hyd Christ bedair cenhedlaeth ar ddeg.
18A cenhedlaeth yr Iesu Christ a oedd fel hyn: canys gwedi dyweddïo Maria ei fam ef â Ioseph, cyn iddynt gyd-fyw, hi a gafwyd yn feichiog o’r Yspryd Sanctaidd.
19A Ioseph ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac ddim yn chwennych ei gwneuthur hi yn gyhoeddus, a fwriadodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel.
20A tra yr oedd efe yn ystyried am y pethau ymma, wele cennad yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, yn dywedyd, Ioseph, mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Maria dy wraig, oblegyd yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Yspryd Sanctaidd.
21A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegyd efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.
22(A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,
23Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyd â ni.)
24A Ioseph pan ddeffroës o gwsg, a wnaeth megis y gorchymynasai cennad yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig.
25Ac nid adnabu efe hi, hyn oni esgorodd hi ar ei mab cyntafanedig. A galwodd ei enw ef IESU.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.