1YN gymmaint a darfod i lawer gymmeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a lawn gredir yn ein plith,
2Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair:
3Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o’r dechreuad, ysgrifenu mewn trefn attat, Ardderchoccaf Theophilus,
4Fel y cait wybod sicrwydd am y geirau y’th ddysgwyd ynddynt.
5¶ YR oedd, yn nyddiau Herod frenin Iudaia, ryw offeiriad a’i enw Zacharïas, o ddyddgylch Abïa: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabet.
6Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd, yn ddiargyhoedd.
7Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabet yn ammhlantadwy, ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad ger bron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef.
9Yn ol arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogl-darthu, yn ol ei fyned i deml yr Arglwydd.
10A holl lïaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl-darthiad.
11Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogl-darth.
12A Zacharïas, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zacharïas: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabet a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.
14A bydd i ti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
15Canys mawr fydd efe y’ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a lenwir o’r Yspryd Glân, ie, o groth ei fam:
16A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw.
17Ac efe a â o’i flaen ef yn yspryd a nerth Elïas, i droi calonnau y tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.
18A dywedodd Zacharïas wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys yr wyt ti yn hen, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran.
19A’r angel gan atteb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw, ac a anfonwyd i lafaru wrthyt, ac i fynegi i ti y newyddion da hyn.
20Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.
21Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacharïas: a rhyfeddu a wnaethant ei fod ef yn aros cyhyd yn y deml.
22A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt: a hwy a wybuant weled o hono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.
23A bu, cyn gynted ag y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned o hono i’w dŷ ei hun.
24Ac ar ol y dyddiau hynny y cafodd Elisabet ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,
25Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwaradwydd ym mhlith dynion.
26Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yn Galilaia, a’i henw Nazaret,
27At forwyn wedi ei dyweddïo i wr a’i enw Ioseph, o dŷ Dafydd; ac enw'r forwyn oedd Maria.
28A’r angel a ddaeth i mewn atti, ac a ddywedodd, Hanffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ym mhlith gwragedd.
29A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.
30A dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Maria; canys ti a gefaist râs gyd â Duw.
31Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU.
32Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd.
33Ac efe a lywodraetha ar dŷ Iakob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.
34A Maria a ddywedodd wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?
35A’r angel a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner o honot ti, a elwir yn Fab Duw.
36Ac wele, Elisabet dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn ammhlantadwy.
37Canys gyd â Duw ni bydd un gair yn analluawl.
38A dywedodd Maria, Wele, wasanaethyddes yr Arglwydd; bydded i mi yn ol dy air di. A’r angel a aeth ymaith oddi wrthi hi.
39A Maria a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Iudaia.
40Ac a aeth i mewn i dŷ Zacharïas, ac a gyfarchodd well i Elisabet.
41A bu, pan glybu Elisabet gyfarchiad Maria, i’r plentyn yn ei chroth hi lammu: ac Elisabet a lanwyd o’r Yspryd Glân.
42A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ym mhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
43Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd attaf fi?
44Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gafarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fy nghroth.
45A bendigedig yw yr hon a gredodd: y bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46A dywedodd Maria, Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd,
47A’m hyspryd yn llawenychu yn Nuw fy Iachawdr.
48Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegyd wele, o hyn allan yr holl genhedlaethau a’m geilw yn wŷnfydedig.
49Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd: a sanctaidd yw ei enw ef.
50A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef.
51Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai iselradd.
53Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion.
54Efe a gynnorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd;
55Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
56A Maria a arhosodd gyd â hi ynghŷlch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.
57A chyflawnwyd amser Elisabet i esgor; a hi a esgorodd ar fab.
58A’i chymmydogion a’i chenedl a glybu fawrhâu o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gyd-lawenychasant â hi.
59A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Zacharïas, yn ol enw ei dad.
60A’i fam a attebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef.
61Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn.
62A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef.
63Yntau a alwodd am argraph daflen, ac a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy; a thrwy holl fynydd-dir Iudaia y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
66A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw yr Arglwydd oedd gyd ag ef.
67A’i dad ef Zacharïas a gyflawnwyd o’r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gan ddywedyd,
68Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel: canys efe a ymwelodd, ac a wnaeth prynedigaeth i’w bobl;
69Ac efe a ddyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni, yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr;
70Megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o oesoedd gynt.
71Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion;
72I wneid trugaredd, ac i gofio ei sanctaidd gyfammod a’n tadau.
73Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni,
74Gwedi ein rhyddhâu o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddiofn,
75Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl ddyddiau ein bywyd.
76A thithau, fachgennyn, a elwir yn brophwyd i’r Goruchaf: canys ti a ai o flaen wyneb yr Arglwydd, i barottôi ei ffyrdd ef;
77I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau,
78O herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder,
79I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80A’r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn yr anialwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.