1Llongau Tarsis, udwch:
Canys anrheithiwyd hi, mal nad oes dŷ i fyned iddo!
O dir Chittim y datguddiwyd iddynt.
2Dystewch, drigolion yr ynys!
Trafnidyddion Sidon yn tramwy y môr a’th lanwent.
3Ac ar ddyfroedd lawer had Sichor,
Cynauaf yr Afon, oedd ei chynnyrch:
A hi ydoedd farchnadfa cenedloedd.
4Cywilyddia, Sidon! canys llefarodd y môr,
Cader y môr, gan ddywedyd:
Ni fum mewn gwewyr, ac ni esgorais;
Ac ni fegais wyr ieuainc; ac ni feithrinais forwynion.
5Pan glywir hyn gan yr Aiphtiaid,
Hwy a ymofidiant pan glywer hyn am Tyrus.
6Ewch trosodd i Tarsis;
Udwch, preswylwyr yr ynys!
7Ai hon yw eich dinas lawen;
Yr hon y mae ei henafiaeth er y dyddiau gynt?
Ei thraed a’i harweiniant hi i ymdaith ymhell.
8Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus, y goronyddes,
Yr hon yr ydoedd ei thrafnidyddion yn dywysogion;
Ei marchnadyddion yn bendefigion y ddaear?
9 Iehofah y lluoedd a fwriadodd hyn,
I ddiwynaw balchder pob gogoniant;
I ddirmygu holl bendefigion y ddaear.
10Dos drwy dy wlad fal yr Afon, O ferch Tarsis!
Nid oes wregys mwyach.
11Estynodd ei law ar y môr,
Gwnaeth i deyrnasoedd grynu;
Iehofah a orchymynodd am Canaan,
I ddinystriaw ei chadarnleoedd.
12A dywedodd Efe: ni chai orfoleddu mwy,
Yr orthrymedig forwyn, merch Sidon!
Cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.
13Wele dir y Caldeaid!
Bu nid oedd y bobl hyn;
Yr Assyriad a’i sylfaenodd hi i drigolion yr anialwch.
Derchafant hwy eu tyrau,
Dynoethant ei phlasau hi;
Troant hi yn adfail.
14Llongau Tarsis, udwch;
Canys anrheithiwyd eich cader chwi.
15A bydd yn y dydd hwnw
Yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrugain,
Megys dyddiau un brenin:
Yn mhen y deng mlynedd a thrugain
Y bydd cân gan Tyrus, megys cân putain.
16Cymer y delyn, dos o amgylch y ddinas,
Tydi butain anghofiedig!
Cân gerdd dda: cân lawer fal yth adgofier.
17A bydd yn mhen y deng mlynedd a thrugain,
Yr ymwela Iehofah â Thyrus,
A hi a ddychwel at ei helw,
Ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd
Ar wyneb y ddaear.
18Ond ei thrafnid hi, ac ei helw hi, a fydd gysegredig i
Iehofah:
Ni thrysorir ac nis cedwir;
Canys eiddo y rhai a drigant o flaen Iehofah fydd ei thrafnid hi,
I fwyta hyd ddigon, ac yn wisgiad trefnus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.