1DYWED yr ynfyd yn ei galon, ‘Nid “oes” Duw:’
Ymlygrasant, difwynasant “bob” gweithred;
Nid “oes” neb a wna ddaioni.
2 Iehova o’r nefoedd a edrychodd ar feibion dynion,
I weled a oes neb deallgar, yn ceisio Duw.
3Gwrthgiliodd pawb, ynghyd yr ymhalogasant;
Nid “oes” neb a wna ddaioni, nac oes un.
4Oni wyddant “eu bod” oll yn weithredwyr trawsder?
Bwytawyr fy mhobl, bwytant fara;
Ar Iehova ni alwasant.
5Yno dychrynasant gan ddychryn, lle nad oedd dychryn “arnynt;”
Am “fod” Duw y’mhlith y genedl gyfiawn.
6Cyngor y gorthrymedig a waradwyddwch,
Am “fod” Iehova yn obaith iddo. —
7Pwy a rydd o Sion waredigaeth i Israel? —
Pan adfero Iehova gaethglud ei bobl,
Gorfoledda Jacob, llawenycha Israel.
NODAU
Mae’r Salm hon a’r 33 yr un bron air y’ngair, oddieithr y bummed a’r chweched adnod. Mae’r ddwy yn un yn y 53, ac amrywiant gryn lawer. — Peth arall yw, rhoddir tair adnod i mewn ar ol y drydedd, y’nghyfieithiad y Llyfr Gweddi Gyffredin, ag nad ydynt yn yr Hebraeg. Cymmerwyd hwynt o’r LXX: a dygwyd hwynt i mewn yno, mae’n debyg, o’r drydedd bennod o’r Rhufeiniaid, gan ryw gopiydd o’r LXX mewn rhyw oes neu gilydd. Nid ydynt ym mhob copi o’r LXX.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.